Institute for Medieval and Early Modern Studies (IMEMS)
| Seminarau Ymchwil SACMC - Rhaglen i Hydref 2011 | Mae aelodau SACMC yn cwrdd yn rheolaidd gyda staff mewn prifysgolion eraill yng Nghymru (Caerdydd, Abertawe a Y Drindod Dewi Sant) trwy gyfrwng Rhwydwaith Fideo Cymru, er mwyn cynnal seminarau ymchwil ym maes astudiaethau canoloesol a modern cynnar. Mae’r gyfres yn denu siaradwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau ac o bob rhan o’r byd, gan roi cyfle i bobl sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd gyfnewid syniadau.
|
| Symposiwm undydd – ‘Golau ar y Gorffennol’, Dydd Mawrth 23 Awst | Ar ddydd Mawrth 23 Awst, cynhelir symposiwm undydd o’r enw ‘Golau ar y Gorffennol: Ymchwilio i Deuluoedd Cymreig a’u Harchifau c.1500-1850’ yn neuadd Gloddaith, (Coleg Dewi Sant), Llandudno; un o breswylfeydd hynafiaid y teulu Mostyn. Bydd y digwyddiad yn canolbwyntio ar astudiaethau cyfredol o deuluoedd Cymreig a’u harchifau c.1500-1850. Mae’r darpar gyflwynwyr yn amrywio o archifwyr a gwerthwyr celfyddyd i ymgeiswyr doethurol a darlithwyr prifysgol, ac fe fydd testunau’r cyflwyniadau’n canolbwyntio ar amrywiaeth eang o themâu yn cynnwys portreadaeth, ysgrifennu creadigol, treuliant amlwg, barddoniaeth Gymraeg, caethwasiaeth, Piwritaniaeth a materion archifol. Cliciwch yma am adroddiad o'r digwyddiad
|
| Newyddlen y Cyfarwyddwr | Mae Cyfarwyddwr y Ganolfan yn cyhoeddi newyddlen yn rheolaidd er mwyn rhannu newyddion am y Ganolfan fel y gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau a datblygiadau’r Ganolfan. |
| Public 'Translation in Context Lecture' - Wednesday, 23rd March 2011 | Annual 'Translation in Context' lecture this year, which will be delivered by Prof. John Rutherford on Wednesday (the 23rd) at 6 pm in the Main Arts Lecture Theatre (MALT). Professor John Rutherford has been appointed Honorary Professor of Spanish and is an expert on literary translation, Hispanic and Galician Studies. The title of his lecture will be: 'The Impossibility of Literary Translation: The Galician Medieval Cantigas'. This event has been jointly organised by the Centre for Galician Studies, the School of Modern Languages and IMEMS. Click here for more information |
Ymchwil, Archaeolegol, ar y Cyfnod Cynnar yng Ngwlad yr Iâ yn denu sylw Rhyngwladol |
Mae darganfyddiadau archaeolegol a phalaeoecolegol yn dangos bod pobl wedi bod yn byw yng Ngwlad yr Iâ er y flwyddyn O.C. 800 - mae hynny 70 mlynedd yn gynharach na’r dyddiad traddodiadol ar gyfer nodi dyfodiad y Llychlynwyr i’r wlad. Mae’n ymddangos bod cysylltiad rhwng y bobl gynnar hyn yng Ngwlad yr Iâ a chymunedau mynachaidd o’r traddodiad Gwyddelig oedd wedi’u lleoli yng ngorllewin yr Alban. Dr Kristján Ahronson o’r Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg ym Mhrifysgol Bangor wnaeth y darganfyddiadau hyn a chafodd ei waith ei drafod ar y rhaglen materion cyfoes fwyaf blaenllaw ar y radio fin nos yng Nghanada, "As it Happens". Darlledwyd y cyfweliad ar draws Canada ar Radio CBC ac yn yr Unol Daleithiau ar ei gwasanaeth Radio Cenedlaethol Cyhoeddus. Gwnaed y darganfyddiadau hyn yng Ngwlad yr Iâ drwy i dîm Dr Ahronson ddefnyddio techneg o’r enw tephrochronology sydd yn defnyddio’r lludw (neu’r tephra) sy’n disgyn o losgfynydd wrth iddo ffrwydro. Mae tephrochronolgy wedi galluogi’r tîm i ddyddio’r safle archaeolegol ac i edrych ar y cofnod sydd yn y tephra o ryngweithio rhwng dyn a’i amgylchedd ac o newid hinsawdd yn y cyfnod cynnar yng Ngwlad yr Iâ. GWRANDEWCH AR Y CYFWELIAD AR CBC: Gwrandewch ar y cyfweliad ar lein drwy fynd i www.cbc.ca/aih . Ewch i’r rhaglen a ddarlledwyd ddydd Mawrth, 11 Ionawr a chliciwch ar y ddolen i Rhan 3. Mae cyfweliad Dr Ahronson yn dechrau ar 18.54. DOLEN YN SYTH I BENNOD 11 IONAWR: http://www.cbc.ca/asithappens/episode/2011/01/11/tuesday-january-11-2011/ DARLLENWCH YMHELLACH:
http://www.unreportedheritagenews.com/2010/12/did-scots-visit-iceland-new-research.html |
AHRC-funded Project 'The Production and Reading of Music Sources, 1480–1530 (PRoMS)' |
A major AHRC Research Grant has been awarded to the Bangor University School of Music, in association with the Warburg Institute (University of London), for a study of the Production and Reading of Music Sources, 1480-1530. The project will be funded with nearly £ 800,000, the biggest ever sum awarded to a single project in Music by the AHRC. Click here for more information |
Y Royal Shakespeare Company yn gwadd academydd o Fangor i roi sylwadau ar awdur Arthuraidd canoloesol |
Cafodd Dr Raluca Radulescu, Uwch-ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Ganoloesol ac arbenigwr ar waith Syr Thomas Malory, ei gwahodd i gymryd rhan mewn digwyddiad cyhoeddus 'Authoring Arthur' ddydd Sul 27 Mehefin 2010, a oedd yn cynnwys trafodaeth banel gyda Mike Poulton, a fu’n gyfrifol am addasu Morte Darthur ar gyfer y Royal Shakespeare Company, a Gillian Bradshaw, nofelydd ac awdur y drioleg Arthuraidd Down the Long Wind. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth |
| 2010 | Seminarau Ymchwil SACMC Mae aelodau SACMC yn cwrdd yn rheolaidd gyda staff mewn prifysgolion eraill yng Nghymru (Caerdydd, Abertawe a Llanbedr Pont Steffan) trwy gyfrwng Rhwydwaith Fideo Cymru, er mwyn cynnal seminarau ymchwil ym maes astudiaethau canoloesol a modern cynnar. Mae’r gyfres yn denu siaradwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau ac o bob rhan o’r byd, gan roi cyfle i bobl sy’n gweithio mewn gwahanol feysydd gyfnewid syniadau.
|
Seminarau y Ganolfan Astudiaethau Canoloesol |
Mae’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol yn cynnal seminarau rheolaidd ar gyfer staff ac uwchraddedigion.
|
Newyddion Cyllido |
Seliau Canoloesol Cymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae’n bleser gan dîm y prosiect gyhoeddi llwyddiant cais prosiect sylweddol i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau i gefnogi gwaith ar seliau canoloesol Cymreig yn LlGC a chadwrfeydd eraill.
|
| Society for Renaissance Studies Funding | Click here for more information |
| CARMEN | Ystyr CARMEN yw’r Co-operative for the Advancement of Research through a Medieval European Network, sef rhwydwaith byd-eang sy’n dwyn ynghyd grwpiau o ganoloeswyr (gan gynnwys 'cynghreiriau o ganolfannau', megis canolfannau ymchwil cenedlaethol neu oruwchgenedlaethol, cyrff disgyblu, neu gymdeithasau o unigolion) sy’n gweithredu ar lefel uwchlaw prifysgolion unigol, yn ogystal â phrifysgolion unigol, cyrff cyhoeddus a phreifat (e.e. amgueddfeydd, orielau, cyhoeddwyr) sy’n gweithio ar hyn o bryd ym maes dysgu neu ymchwil i’r Oesoedd Canol (tua 400-1500 OC). http://www.carmen-medieval.eu/ a http://carmen.eldoc.ub.rug.nl/root/abcarm/ Cynrychiolydd/person cyswllt SACMC yn CARMEN yw Dr Raluca Radulescu (Saesneg, Bangor), a gall aelodau SACMC sydd â diddordeb mewn prosiectau ymchwil neu ddysgu ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol gysylltu â hi ar els201@bangor.ac.uk. |
6 - 8 July 2011 |
The Wye Valley: Romantic Representations, 1640-1830 Tintern, Monmouthshire, Wales Click here for more information. |
| 26 - 28 Gorffennaf 2011 | Cynhadledd Canolfan Prydain ac Iwerddon yr Adferiad ar y 1690au. Cliciwch yma am ragor o fanylion. |
| 13 - 16 October 2011 | The George Herbert Society's next international, interdisciplinary conference. Gregynog Conference Center, Newtown, Powys, Wales Click here for more information. |
| Gwanwyn 2014 | Yn ystod gwanwyn 2014 bydd yn bleser gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor (SACMC), ar y cyd â Llyfrgell Huntington, Califfornia, gynnal arddangosfa a fydd yn tynnu sylw at un o drysorau pennaf y Llyfrgell Genedlaethol, sef llawysgrif Hengwrt o’r Canterbury Tales gan Chaucer. Cred rhai mai dyma’r fersiwn gynharaf sydd wedi goroesi o’r campwaith llenyddol hwn. |
7 - 9 Mehefin 2010 |
Crwsadau ôl-ganoloesol: ieithoedd, cyd-destunau, newid c1400-1700 Prifysgol Aberystwyth
|
| 26 Mai 2010 | Cynhelir cynhadledd flynyddol SACMC ddydd Mercher 26 Mai 2010 yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
|
9 Rhagfyr 2009 |
Adolygiad Canol Tymor Partneriaeth Ymchwil a Menter Prifysgolion Aberystwyth a Bangor |
2009 – Semester 1af |
|
| Newyddlen y Cyfarwyddwr |
|
| 28 – 30 Gorffennaf 2009 | Gwleidyddiaeth, Crefydd a Diwylliant ym Mhrydain ac Iwerddon yn y 1680au Bydd y gynhadledd ar Wleidyddiaeth, Crefydd a Diwylliant ym Mhrydain ac Iwerddon yn y 1680au yn cael ei chynnal ddiwedd Gorffennaf 2009 ym Mangor.
|
Pastoralism and the British Problem |
Dr Stewart Mottram, IMEMS Research Lecturer in English, was awarded a Leverhulme Early Career Fellowship in order to undertake research at the Department of English, Aberystwyth on a book-length project, Pastoral: Writing Reformation England and Wales. |
| 2008 - 2009 | Cyfres o Seminarau Tymor yr Hydref Mae’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol yn cynnal cyfres o seminarau dan nawdd yr Ysgolion Saesneg, Hanes, a Cherddoriaeth. Mae’r seminarau yn cael eu cynnal yn Ystafell Seminar HRC/WISCA ar ddyddiau Iau, 5.00 pm (oni nodir fel arall). Lluniaeth ar gael y tu allan i ystafell WISCA o 4.45 pm.
|
| 11 Hydref 2008 | Cynhadledd Diwylliannau Rhyfel a Datrys Gwrthdaro |
| 24 - 27 Gorffennaf 2008 | Cynhadledd Flynyddol Cerddoriaeth Ganoloesol a Cherddoriaeth y Dadeni |
| 3-4 Gorffennaf 2008 | Cynhadledd ddeuddydd ar y thema ‘Geiriau am Gymru: 1500-1800’
|
| 10 – 12 Mehefin 2008 | Menywod a’r cysegr: cynhadledd uwchraddedig
|
| 1 Mawrth 2008 | Cynhadledd gyntaf y rhwydwaith ‘Diwylliannau Rhyfel’
|
| 11 Chwefror 2008 | Gweithdy amser cinio gyda’r Athro Gerd Althoff
|
| Hyfforddiant Uwchraddedig ar y Cyd mewn Paleograffeg |
|