Gwahoddiad ar Gyfer Mynegi Diddordeb
Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Aberystwyth, Cymru, Datganiadau o Ddiddordeb mewn Cymrodoriaeth Marie Skłodowska-Curie.
Cymrodoriaethau Unigol
Mae'r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (IMEMS) ym Mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth, y DU, yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais i gynllun Cymrodoriaeth Unigol Marie Skłodowska-Curie y Comisiwn Ewropeaidd gyda naill ai Bangor neu Aberystwyth.
Mae gennym hanes llwyddiannus o groesawu cymrodorion yn y ddwy brifysgol, ac rydym yn gartref ar hyn o bryd i Gymrodorion Marie Curie. Hoffem annog unigolion brwd sydd â diddordeb yn ymchwil y Sefydliad (www.imems.ac.uk) sy'n cynnwys y meysydd canlynol, ond nid yw wedi'i chyfyngu iddynt...
- teithio
- diwylliant materol (yn cynnwys llawysgrifau)
- rhywedd ac ymgysegriad
- hanes emosiynau
- amser a chof
Meini prawf cymhwyster
Mae ymgeiswyr o unrhyw genedligrwydd yn gymwys ar gyfer y 'Cynllun Cymrodoriaeth Ewropeaidd'. Fodd bynnag, mae yna feini prawf ychwanegol y dylid bod yn ymwybodol ohonynt:
- Ni ddylech fod wedi byw na gweithio yn y DU am fwy na 12 mis o'r 36 mis cyn dyddiad cau cyflwyniadau, sef 13 Medi 2016.
- Rhaid i chi naill ai feddu ar radd ddoethurol (PhD neu gyfatebol) neu fod wedi ymgymryd ag o leiaf 48 mis o ymchwil llawn-amser gyfatebol - h.y. ymchwil a ymgymerwyd ers i chi ennill cymhwyster a fyddai'n caniatáu i chi ymgymryd â gradd ddoethurol yn y DU.
Nid oes cyfyngiad oed na chyfyngiad ar statws, ond dylech gadw mewn cof bod cymrodoriaethau wedi eu cynllunio ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar ac fel y cyfryw maent yn canolbwyntio ar hyfforddiant gymaint ag ar ymchwil. Mae'r cymrodoriaethau ar gael am gyfnodau rhwng 12 a 24 mis.
Mae rhai eithriadau i'r uchod, e.e. absenoldeb rhiant, gwasanaeth milwrol, statws ffoadur. Gellir ymgynghori â'r rheolau llawn yn y Canllawiau Ymgeiswyr ar:
http://ec.europa.eu/research/participants/portal/desktop/en/opportunities/h2020/topics/2226-msca-if-2016.html
Y broses ddethol
I gyflwyno datganiad o ddiddordeb i'r Ysgol, anfonwch pdf o CV, cadarnhad eich bod yn cwrdd â'r meini prawf cymhwyster, ac un dudalen pdf yn amlinellu eich syniad project atom drwy e-bost enquiries@aberbangorstrategicalliance.ac.uk. Dyddiad cau: 10 Mehefin 2016.
Croesewir ymholiadau anffurfiol yn ogystal; anfonwch hwynt at y cyd-gyfarwyddwyr, yr Athro Raluca Radulescu (r.radulescu@bangor.ac.uk) neu Dr Gabor Gelleri (gag9@aber.ac.uk). Os nad ydych eisoes wedi nodi grŵp academaidd neu grŵp ymchwil posib i gydweithio â hwynt yn eich e-bost, byddwn yn trafod hynny gyda chi ar ôl ystyried y mater o fewn y sefydliad.