Diwylliannau’r Deunydd Ysgrifenedig
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae ysgolheigion wedi ailgydio ag arddeliad newydd mewn ymchwil i ddiwylliannau’r llawysgrif ac argraffu. Drwy gydol yr holl gyfnod canoloesol a modern cynnar, mae pwysigrwydd ymchwil i ddiwylliant materol deunyddiau ysgrifenedig wedi cael ei gydnabod, ac fe gydnabyddir hefyd fod y lliaws o waith ysgrifennu a gynhyrchwyd ar gyfer cynnal y gymdeithas o ddydd i ddydd yr un mor werthfawr â'r eitemau penodol ac achlysurol fu'n destun y rhan fwyaf o waith astudio yn draddodiadol. Nod thema ‘Diwylliannau’r deunydd ysgrifenedig’ yn SACMC yw dod â thimau rhyngddisgyblaethol at ei gilydd – yn haneswyr, ysgolheigion llên, haneswyr celf, cerddoregwyr, archeolegwyr a phaleograffegwyr – i ymdrin â materion sydd, o reidrwydd, yn croesi hen ffiniau deallusol, ac fe fydd yn gweithio gyda diffiniad eang o ddeunydd ysgrifenedig. Bydd yn ystyried testun ysgrifenedig, cynrychiolaeth ddarluniol a nodiant cerddorol, wedi'u cofnodi ar amrywiaeth o gyfryngau, o femrwn a phapur i frethyn, carreg, clai a phren.
Yn y trafodaethau a’r prosiectau a gaiff eu hybu dan y thema, bydd ymchwilwyr yn gofyn rhai o’r cwestiynau canlynol:
-
Beth yw arwyddocâd diwylliant y llawysgrif ac argraffu mewn cymdeithas?
-
Pwy ysgrifennodd bethau, ac i bwy?
-
Pwy a ddarllenodd ac a ddefnyddiodd destunau a deunydd ysgrifenedig penodol, a sut?
-
Sut y bu i’r ffordd yr oedd ysgrifennu yn cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio ddylanwadu ar hunaniaeth a chanfyddiadau unigolion, cymunedau a chenhedloedd?
-
Sut yr oedd y wybodaeth a'r sgiliau i gynhyrchu a deall ysgrifennu yn cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall, a sut y gellir trosglwyddo'r sgiliau i ddehongli'r deunydd sydd wedi goroesi i ysgolheigion newydd heddiw?
-
Sut y gellir defnyddio technolegau cyfoes i hwyluso ymchwil i ddiwylliannau’r llawysgrif ac argraffu?
Yn ddaearyddol, mae ffynonellau’r thema hon i’w cael ledled y byd, a bydd y bobl sy’n rhan ohoni yn ceisio creu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o archifau a llyfrgelloedd cenedlaethol a rhyngwladol: mae gan aelodau SACMC gysylltiadau helaeth â llawer ohonynt eisoes. Serch hynny, byddwn hefyd yn ceisio manteisio ar ein hasedau lleol – gan gynnwys y casgliadau a gedwir yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, adnoddau Archif Prifysgol Bangor, a threftadaeth archaeolegol hynod ddiddorol y Canolbarth a’r Gogledd.
I ddarllen am y gweithgareddau a noddir dan y thema, ac i ymuno â’u trafodaethau, cliciwch ar y dolenni isod.
Dr Elisabeth Salter
Cydlynwr y thema