Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Prosiect Mostyn

Mae ‘Prosiect Mostyn’ yn un o fentrau’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC) ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor, mewn cydweithrediad agos â phartneriaid megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archif Prifysgol Bangor, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd ac Ystâd Mostyn. Mae’n canolbwyntio ar y corff anferth, amrywiol ac anhygoel o gofnodion – yn ysgrifenedig ac ar ffurf deunyddiau – a gynhyrchwyd, a gasglwyd neu a fu ar ryw adeg ym meddiant teulu ac ystâd Mostyn yng ngogledd Cymru. Mae’r cofnodion yn amrywio o ran dyddiad o’r cyfnod canoloesol i’r ugeinfed ganrif; ac o lawysgrifau llenyddol a llyfrau printiedig cynnar, drwy archifau’r ystâd a’r teulu, i ffynonellau gwleidyddol, ac ymlaen i adeiladau, paentiadau a nwyddau’r cartref. Mae llawer ohonynt yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn Archifau Prifysgol Bangor, ond mae llawer ohonynt hefyd yn dal i gael eu cadw gan Ystâd Mostyn, a rhagor yng ngofal Archifdy Penarlâg a chadwrfeydd eraill ledled y byd. Mae Prosiect Mostyn yn cael ei redeg ar y cyd ag Ystâd Mostyn a theulu Mostyn, ac yr ydym yn ddiolchgar am eu cefnogaeth a’u diddordeb.

 

Amcanion allweddol Prosiect Mostyn yw:

  1. Codi ymwybyddiaeth gyhoeddus ac academaidd o ystod a diddordeb deunydd Mostyn.

  2. Cyfoethogi deunydd Mostyn fel adnodd cyhoeddus ac academaidd drwy gyfrwng gweithgareddau megis ei leoli, ei gatalogio, ei ddigideiddio, ei ddosbarthu’n electronig, ei adfer a’i arddangos.

  3. Dangos pa mor ddefnyddiol yw’r deunydd ar gyfer dealltwriaeth gyhoeddus ac academaidd o ddiwylliant y gorffennol a diwylliant cyfoes – yn enwedig diwylliant Cymru – drwy gyfrwng prosiectau ymchwil, arddangosfeydd a darlithoedd sy’n canolbwyntio ar gofnodion teulu ac ystâd Mostyn.

 

Mae Prosiect Mostyn yn cwmpasu ystod eang o themâu ymchwil, yn cynnwys archwilio cyfraith tir yr Oesoedd Canol, gwaith ar noddwyr y beirdd, ail-greu Llyfrgelloedd Mostyn ac ystyried celf a phensaernïaeth y teulu pwysig hwn o Gymru. Mae dau brosiect mawr ar y gweill, y naill yn ymwneud â datblygiad Llandudno fel cymuned drefol a thref glan-môr arwyddocaol a’r llall yn archwilio’r posibiliadau o ddefnyddio dulliau dyniaethau digidol i ail-greu Llyfrgell Mostyn. At ddiben y gwaith ymchwil hwn, mae Prosiect Mostyn yn cydweithio ag ystod o bartneriaid yn cynnwys Ystadau Mostyn a’r teulu Mostyn, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Archifau Prifysgol Bangor, Cadw, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a nifer o swyddfeydd a chymdeithasau cofnodion lleol eraill.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

 

 

Manylion Cyswllt:

Os hoffech ddysgu mwy am unrhyw rai o’r prosiectau hyn neu am Brosiect Mostyn yn gyffredinol, cysylltwch â:

Dr Elisabeth Salter

Cyfarwyddwr y Prosiect, Yr Adran Saesneg, Prifysgol Aberystwyth

els@aber.ac.uk

 

 

 

Site footer