Skip to main content Skip to section menu

Newyddlen IMEMS Gwanwyn 2014

 

Annwyl gydweithwyr,

Yn ystod 2013-14 cafwyd cyfnod newydd yn natblygiad IMEMS, gyda phenodiad cyd-gyfarwyddwr newydd ym Mangor a dechreuwyd ar broses newydd o ymgynghori trwy’r arolwg Survey Monkey a chyfarfodydd ymgynghori ym mhob sefydliad. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad yr aelodau i barhau gydag amcanion IMEMS yn amlwg yn yr ymatebion niferus a'r sylwadau cadarnhaol a anfonwyd ac a rannwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar ac mae'n wefreiddiol i weld egni'r mentrau newydd yn cael eu hamlygu mor gryf.

Mae’r gweithdrefnau trefniadol  canlynol wedi eu sefydlu:

  • Cafwyd cynnig i adnewyddu’r bwrdd ymgynghorol rhyngwladol.  Mae croeso i aelodau enwebu ysgolheigion sydd ag enw da’n rhyngwladol yng nghyfnod yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar  o’r disgyblaethau (ac agweddau traws-ddisgyblaethol) a gynrychiolir yn IMEMS gyda'r bwriad o ddangos cryfderau IMEMS ac yn arbennig, y cydbwysedd rhwng y ddau gyfnod.

Gweithgareddau at y dyfodol

Cytunwyd ar nifer o flaenoriaethau yn y cyfarfodydd rhwng Bangor ac Aberystwyth ac amlygwyd rhai agweddau y dylid eu  datblygu at y dyfodol. Bydd rhaid gwneud gwaith paratoi yn ystod y chwe mis nesaf er mwyn gwneud cynnydd yn y meysydd isod:

  • Y wefan, yn arbennig y ffordd y caiff elfennau a diddordebau/projectau ymchwil eu dangos i'r byd academaidd tu allan, ac wrth baratoi at y paneli REF gwirio ein gweledigaeth yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol; y newyddion yn y fan hon yw bod y bwrdd rheoli (wedi cyfarfod ar 5 Chwefror 2014) wrthi ar hyn o bryd yn trafod fformat newydd arfaethedig i'r wefan, fydd yn cael ei ddosbarthu ar gyfer ymgynghori a chael sylwadau, ac y dylai mynd yn fyw ar ddiwedd mis Mawrth.

  • Bydd y gynhadledd a gynhelir dwywaith y flwyddyn, gyda'r thema gytunedig Teithio yn cael ei threfnu yn ystod y 12 i 18 mis nesaf; mae cydweithwyr o'r ddau sefydliad wedi mynegi diddordeb mewn bod yn rhan o'r pwyllgor trefnu. Mae eu henwau a’u manylion cyswllt fel a ganlyn (nid yw'r rhestr wedi'i chau, felly mae croeso i chi gysylltu ag unrhyw un o'r gwirfoddolwyr hyn i gynnig awgrymiadau am ddyddiadau, ffynonellau cyllido, prif siaradwyr, ac ati): 

Aberystwyth: Dr Cathryn Charnell-White (Cymraeg, Aberystwyth, ctc@aber.ac.uk), Dr Rhun Emlyn (Hanes a Hanes Cymru, Aberystwyth, rre@aber.ac.uk), Dr Gabor Gelleri (Ieithoedd Ewropeaidd, Aberystwyth, gag9@aber.ac.uk)

Bangor: Yr Athro Andrew Hiscock (Saesneg, Bangor – ar gyfnod sabothol yn ystod gwanwyn 2014, a.hiscock@bangor.ac.uk), Dr Kate Olson (Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, Bangor, k.olson@bangor.ac.uk), Dr Rachel Willie (Saesneg, Bangor, r.willie@bangor.ac.uk). ⁠

  • Cyllid:

  • mae'r cyd-gyfarwyddwyr yn gweithio ar gynllun busnes i’w gyflwyno i’r ddau sefydliad;

  • ym Mangor, mae'r Is-ganghellor wedi dangos cefnogaeth tuag at sefydlu ysgoloriaeth PhD IMEMS, ffioedd yn unig i ddechrau; gobeithir y bydd yr un peth yn digwydd yn Aberystwyth;

c) mae menter gan y cyd-gyfarwyddwr ym Mangor wedi arwain at ddechrau cyfnod o gyllid cyfatebol i brojectau bach, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael: golyga hyn bod aelodau IMEMS yn cael eu hannog yn awr i wneud cais am gyllid cyfatebol i brojectau/cynadleddau/gweithgareddau eraill er enghraifft, hyfforddiant i ôl-raddedigion ac yn y blaen, unwaith y bônt wedi sicrhau cyllid allanol. Bydd arian cyfatebol ar gael am hyd at £500 a gwneir y penderfyniadau gan bwyllgor fydd yn cynnwys dau gyd-gyfarwyddwr IMEMS, Chris Drew, dirprwy bennaeth y Gynghrair Strategol ac aelodau'r bwrdd rheoli. Anfonwch geisiadau yn amlinellu’r projectau at y pwyllgor hwn drwy e-bost ar unrhyw adeg.

  • Bwletin ymchwil ddwywaith y flwyddyn / cyfrifon Facebook/Twitter: cytunir y dylid eu sefydlu fel mater o flaenoriaeth er mwyn agor sianeli cyfathrebu gyda'r gymuned academaidd tu allan. Mae'r cyfrif Facebook wedi ei sefydlu ac yn gweithredu, a gellir mynd iddo trwy https://www.facebook.com/IMEMS.SACMC  <https://www.facebook.com/IMEMS.SACMC>

Defnyddir y cyfrifon hyn yn awr i roi cyhoeddusrwydd i'n holl waith, felly rydym yn annog aelodau IMEMS i roi gwybod am unrhyw brojectau personol, newyddion am gyllid, penodiadau newydd perthnasol yn eich adrannau, newyddion am gyhoeddiadau ac yn y blaen. Yn y gorffennol, defnyddiwyd cylchlythyr IMEMS i raddau helaeth i hysbysebu digwyddiadau allanol (ac ychydig o rai mewnol hefyd), a gynhelir tu allan i'r prifysgolion. Rydym yn awr eisiau sicrhau bod aelodau IMEMS yn dod i adnabod ei gilydd o ran diddordebau ymchwil a sicrhau cydweithio posibl trwy hysbysebu ein gwaith da a'n mentrau ein hunain. Nid yw hyn yn disodli'r angen am fwletin ymchwil; mae'r cyd-gyfarwyddwyr yn gobeithio sefydlu bwletin ymchwil dwywaith y flwyddyn ar ôl yr haf ac anfonir galwad am hysbysiadau gyda hyn (fe'u rhoddir ar y wefan i ddechrau, gyda chrynodeb o'r prif newyddion yn y bwletin).

  • Mae'r mentrau newydd i gael cyfnodolyn a/neu gyfres llyfrau (mynediad agored?) IMEMS wedi derbyn llawer o ddiddordeb a mewnbwn gan yr aelodau. Bydd pwyllgor ymgynghorol yn cael ei sefydlu i ystyried y cynlluniau hyn trwy ymgynghori'n eang arnynt, gyda golwg ar gyflwyno rhai themâu/teitlau eraill i'r aelodau erbyn mis Medi/Hydref 2014. Rhowch wybod i un o'r cyd-gyfarwyddwyr os hoffech fod yn rhan o'r grŵp ymgynghorol hwn.

  • Cyfeiriadur arbenigedd: bydd hwn yn adnodd ar-lein, a gynhelir trwy we-dudalen IMEMS. Bydd yn darparu cyfeiriadur o arbenigwyr ar yr oesoedd canol a'r cyfnod modern cynnar ym mhrifysgolion Cymru a hefyd mewn sefydliadau'r trydydd sector, yn ogystal ag ysgolheigion annibynnol a rhai sydd wedi ymddeol, o bosib yn gysylltiedig â'r matrics newydd y gobeithir y bydd yn rhoi strwythur i'r gwefan newydd. Rhagwelir y trefnir y cyfeiriadur hwn mewn ffordd fel y gall aelodau roi mewnbwn yn uniongyrchol ar-lein gan felly ysgafnhau'r baich o orfod diweddaru'n gyson.

  • Hyfforddiant i ôl-raddedigion: cafwyd rhai awgrymiadau diddorol a defnyddiol ynglŷn â hyfforddiant cydweithredol o dan ymbarél IMEMS, efallai oherwydd yr  arferiad a sefydlwyd gyda’r cynllun hyfforddiant am lawysgrifau mewn Saesneg Canol, Eingl-normanaidd, Cymraeg a Lladin a drefnwyd gan Yr Athro Raluca Radulescu yn ystod y cyfnod 2005-11, (Gregynog a Bangor), a'r gweithdai diweddar a'r rhai sydd i ddod yn Llanbedr ac Aberystwyth.  Cysylltwch â Dr Kate Olson ym Mangor (Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, k.olson@bangor.ac.uk) os oes gennych ddiddordeb mewn trafod hyn ymhellach.  <mailto:k.olson@bangor.ac.uk>

  • Darpariaeth MA ar y cyd: bwriedir i’r ddarpariaeth hon ategu yn hytrach na chystadlu yn erbyn y cynlluniau gradd presennol. Gall fod ar ffurf sesiynau hyfforddi ar y cyd (yn Eingl-normanaidd, er enghraifft, astudiaethau llawysgrifau, ac ati), ond hefyd o ran cyfuno modiwlau o’r sefydliadau sy'n cymryd rhan i lunio cynlluniau gradd newydd (astudiaethau Eingl-normanaidd er enghraifft neu'r Defnydd o'r Gorffennol yn yr Oesoedd Canol a'r Cyfnod Modern Cynnar yn Ewrop. Am y tro, anfonwch eich awgrymiadau a'ch sylwadau at Björn Weiler yn bkw@aber.ac.uk.  <mailto:bkw@aber.ac.uk>

Mae mentrau a gweithgareddau parhaus eraill hefyd yn cynnwys rhannu ymarfer da o ran effaith a dylanwad, agor sianelau newydd i gydweithio o fewn Addysg Uwch yng Nghymru, gyda'r nod o weithio gyda'i gilydd fel IMEMS Cymru ynghyd â phartneriaid eraill.  O dan y strategaeth addysgu a dysgu ar y cyd rhwng y prifysgolion mae awydd i gynyddu ein darpariaeth ar y cyd ac felly byddai'n wych gweld datblygiad rhai o’r cynigion gan IMEMS.

Mae pob un o'r datblygiadau newydd hyn yn cynrychioli egni newydd o fewn IMEMS, ac mae'n hollbwysig ein bod yn cadw'r sianelau cyfathrebu yn agored, nid yn unig rhwng y cyd-gyfarwyddwr a'r aelodau, ond hefyd o fewn etholaeth IMEMS.

Cofiwch barhau i anfon y mentrau, a rhowch wybod i ni am unrhyw beth y gellir ei wella.

 

Gyda dymuniadau gorau,

Raluca Radulescu a Björn Weiler

Site footer