Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar

Croeso i wefan y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC) ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor. Mae SACMC yn canolbwyntio ar astudio’r cyfnod rhwng 500 a 1800 ac ar newid y modd y gwneir gwaith ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau.

Er y bydd cyfraniad i’w wneud bob amser gan arbenigwyr unigol sy’n gweithio ar eu liwt eu hun, mae’n amlwg bod llawer o’r gwaith archwilio mwyaf cyffrous i hanes, llên, cerddoriaeth, diwinyddiaeth ac astudiaethau Celtaidd yn cael ei wneud gan dimau sy’n manteisio ar arbenigedd o wahanol ddisgyblaethau a sefydliadau. Mae SACMC yn mynd ati i hybu’r ffordd yma o weithio drwy adeiladu ar y sylfaen ymchwil ragorol a geir yn Aberystwyth a Bangor i greu timau amlddisgyblaeth o safon fyd-eang sy’n gallu gofyn ac ateb cwestiynau ymchwil heriol.

O'i gartref yng Nghymru, mae’r Sefydliad yn creu cyswllt ag ysgolheigion ledled y byd, gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i gefnogi ffyrdd newydd o gydweithredu. Serch hynny, mae SACMC yn cydnabod yr angen i ymchwilwyr gwrdd wyneb yn wyneb ac mae ganddo raglen o gynadleddau, gweithdai a chyd-drafodaethau sy’n denu ysgolheigion o bedwar ban byd. Mae SACMC, wrth gwrs, yn gymuned academaidd, ac yn sgil hynny mae’n rhannu ei chanfyddiadau ymchwil drwy gyfrwng cyhoeddiadau academaidd. Fodd bynnag, bydd y Sefydliad yn cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach drwy gyfrwng ei wefan a’i raglen o arddangosfeydd, perfformiadau a darlithoedd cyhoeddus.

Mae SACMC yn cynnig amgylchedd ymchwil bywiog i fyfyrwyr uwchraddedig, boed ar lefel Meistr neu Ddoethuriaeth. Gyda’r rhaglen reolaidd o seminarau ymchwil, gweithdai dan arweiniad myfyrwyr a sesiynau hyfforddi uwchraddedigion, mae SACMC yn cynnig cyd-destun cefnogol ac ysgogol ar gyfer gwaith uwchraddedig ym maes astudiaethau canoloesol a modern cynnar. Dylai darpar ymchwilwyr uwchraddedig edrych ar ein tudalennau prosiect a’r rhestr o aelodau’r Sefydliad ynghyd â’u harbenigeddau ymchwil, ac mae croeso iddynt gysylltu â’r bobl briodol i drafod eu syniadau a’u cynigion ymchwil â hwy. Am restr o gyrsiau MA drwy gwrs, cliciwch yma.

Mae SACMC wedi sefydlu timau ymchwil i fynd i’r afael â chwestiynau pwysig mewn pedwar maes, a cheir rhagor o wybodaeth am bob un o’r themâu hyn drwy glicio ar y dolenni isod.

Er iddynt gael eu sefydlu cyn SACMC, mae’r canolfannau ymchwil isod bellach yn elfennau pwysig o raglen ymchwil y Sefydliad. Ceir rhagor o wybodaeth am y canolfannau hyn drwy glicio ar y dolenni isod:  

Gobeithio y byddwch yn mwynhau pori drwy weithgareddau ymchwil SACMC, ac y byddwch am fod yn rhan o gyfarfodydd, trafodaethau ac ymchwiliadau y Sefydliad.

Mae gweithgareddau’r Sefydliad yn esblygu ac yn ehangu drwy gydol yr amser:

Ymhlith y datblygiadau newydd a gafwyd yn ddiweddar mae’r prosiect ar ‘Seliau Canoloesol Cymreig 1200-1550’ dan nawdd Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), Prosiect Mostyn mewn cydweithrediad agos ag Ystâd Mostyn, a Phrosiect Digideiddio Archesgobol Bangor mewn partneriaeth ag Eglwys Gadeiriol ac Esgobaeth Bangor. I ganfod mwy am y prosiectau hyn a gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd, neu sydd yn yr arfaeth, edrychwch ar y tudalennau Prosiectau Presennol a Newyddion a Digwyddiadau ar y wefan hon.

Mae’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC) yn un o’r pedair canolfan sy’n rhan o Bartneriaeth Ymchwil a Menter Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor. Dewch i ddysgu mwy am y Bartneriaeth Ymchwil a Menter…

Helen Wilcox
Cyfarwyddwr

 

Site footer