Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Prosiect dan nawdd yr AHRC: 'Cynhyrchu a Darllen Ffynonellau Cerddoriaeth, 1480–1530 (PRoMS)'

Mae grant ymchwil sylweddol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) wedi ei ddyfarnu i Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor, ar y cyd â Sefydliad Warburg (Prifysgol Llundain), ar gyfer astudiaeth o Gynhyrchu a Darllen Ffynonellau Cerddoriaeth, 1480-1530. Bydd y prosiect yn cael ei ariannu gan grant o bron i £800,000, y swm mwyaf y mae’r Cyngor Ymchwil wedi’i ddyfarnu erioed i brosiect unigol ym maes cerddoriaeth.

Bydd y prosiect yn astudio, am y tro cyntaf,  mise-en-page ffynonellau cerddoriaeth bolyffonig y Dadeni mewn modd systematig. Mae’r ffynonellau hyn nid yn unig yn cyfleu repertoire gyfoethog peth o’r gerddoriaeth fwyaf gwefreiddiol a gyfansoddwyd erioed, ond maent hefyd yn wrthrychau sy’n drawiadol iawn o ran eu golwg, ac yn aml yn hynod o hardd o safbwynt artistig. Maent hefyd ymhlith rhai o ffynonellau mwyaf cymhleth eu hoes, gan eu bod yn cyfuno testun llafar, nodiant cerddorol a dyfeisiau gweledol eraill.

Bydd y prosiect yn archwilio mise-en-page – sef y modd y mae’r tair haen yma’n rhyngweithio ar y dudalen – ar gyfer y cyfnod c.1480–1530, pan oedd cerddoriaeth bolyffonig wedi ymestyn ar draws Ewrop gyfan ac wedi cyrraedd ei hamrywiaeth fwyaf o ran mathau o ffynhonnell a repertoire; bydd yn archwilio’r modd y mae ystyr yn cael ei greu drwy gyfrwng y rhyngweithio hwn gan wneuthurwyr (copïwyr cerddoriaeth, copïwyr testun, addurnwyr) a defnyddwyr y ffynonellau hyn.

Bydd y deunydd yn cael ei ddadansoddi a’i gyflwyno mewn dwy ffordd wahanol. Yn gyntaf, bydd catalog o wybodaeth mise-en-page yn cael ei gasglu ar gyfer yr holl ffynonellau sydd wedi goroesi o’r cyfnod hwn (tua 300 o lawysgrifau ac enghreifftiau o tua 80 o fersiynau printiedig). Ar yr un pryd, bydd templed ar gyfer y disgrifiad dosbarthol o wybodaeth tudalen a geirfa derminolegol ar gyfer ffynonellau cerddoriaeth bolyffonig yn cael ei ddatblygu.

Mewn ail gam, bydd nifer o ffynonellau dethol yn cael eu hymchwilio a’u dadansoddi o safbwynt strategaethau cynhyrchu a defnydd, fel sy’n amlwg yn eu cynllun. Bydd y ffynonellau hyn yn cynrychioli’r amrywiaeth ddaearyddol a chronolegol lawn, yn ogystal ag ystod lawn y mathau o ffynonellau o safbwynt fformat, swyddogaeth, storfa ac iaith. Bydd elfennau gweledol, nodiannol a thestunol nifer dethol o ddechreuadau yn cael eu mapio’n fanwl a’u croesgyfeirio â’r catalog a chyda dechreuadau eraill sydd â strategaethau delweddu tebyg (neu gwbl wahanol); darperir sylwebaeth fanwl ar ffurf rhyddiaith ar gyfer y ffynonellau hyn. Hefyd, bydd aelodau’r tîm yn cyhoeddi papurau ymchwil ar bynciau sy’n deillio o’r prosiect.

Yn olaf, bydd y prosiect yn archwilio gyda pherfformwyr sut mae dealltwriaeth o’r mise-en-page yn hysbysu’r modd y caiff y gerddoriaeth ei chanu a’i chlywed. Bydd y perfformiadau, a CD/DVD a gaiff ei rhyddhau i gyd-fynd â hwy, yn cynnwys tafluniadau amlgyfrwng o’r ffynonellau er mwyn cyfleu hyn i’r gynulleidfa, gan roi arweiniad i’r amrywiol haenau gweledol.

Prosiect ar y cyd yw hwn rhwng Prifysgol Bangor a Sefydliad Warburg; mae’n cael ei arwain gan yr Athro Thomas Schmidt-Beste (Bangor); a’r cyd-ymchwilwyr yw’r Athro Charles Burnett (Warburg) a Dr Christian Leitmeir (Bangor). Y Ganolfan ar gyfer Cyfrifiadura yn y Dyniaethau (CCH) yng Ngholeg King’s, Llundain, sy’n gyfrifol am y gweithredu technegol.

Bydd y prosiect yn cyflogi dau gynorthwyydd ymchwil, un mewn cerddoleg ym Mangor a’r llall mewn hanes celf, yn ogystal â myfyriwr PhD a fydd yn cael ei ariannu ac a fydd yn gweithio ar y ffynonellau printiedig. Bydd y rhan fwyaf o’r gwaith yn cael ei wneud ar sail delweddau digidol o fewn amgylchedd cronfa ddata ar-lein, gyda mewnbwn yn cael ei rannu ar hyd llinellau disgyblaethol lle bo hynny’n briodol. Yn ail gam y prosiect, bydd gan bob un o’r cynorthwywyr ymchwil y prif gyfrifoldeb am nifer o ffynonellau unigol, ond byddant hefyd yn cadw’r cyfrifoldeb am agweddau ar eu disgyblaethau eu hunain.

 

 

Site footer