Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Newyddlen IMEMS Gwanwyn 2016

Annwyl Gydweithwyr,

Dynodwyd cyfnod newydd yn natblygiad IMEMS yr haf diwethaf, gyda phenodiad cyd-gyfarwyddwr newydd yn Aberystwyth, Dr Gabor Gelleri, o'r Adran Ieithoedd Modern. Bu hefyd yn cyd-drefnu cynhadledd gyntaf lwyddiannus iawn IMEMS ar y cyd â Dr Rachel Willie, Dr Rhun Emlyn a'r Athro Andrew Hiscock, ar y pwnc ‘Travel and Conflict in the Medieval and Early Modern World/Teithio a Gwrthdaro yn y Byd Canoloesol a Modern Cynnar’.

Mae’r newyddlen  yn cynnwys dwy adran: I. Datblygiadau newydd a II. Adroddiadau ar fentrau a phrojectau parhaus (cliciwch ar bob pennawd i ddarllen mwy):

Datblygiadau newydd:

Adroddiadau ar fentrau a phrojectau parhaus:

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu syniadau i ddatblygu IMEMS ymhellach, mae croeso i chi gysylltu naill ai â’r Swyddfa Cynghrair Strategol neu ni.

Cofion cynnes

Yr Athro. Raluca Radulescu a Dr Gabor Gelléri

Cyd-Cyfarwyddwyr SACMC

Datblygiadau newydd:

Meithrin cysylltiadau cydweithio newydd drwy godi proffiliau aelodau

O 15 o Fai rydym yn bwriadu rhoi sylw i un proffil staff o bob sefydliad bob dydd am wythnos, ac yna bob pythefnos, ar ein gwefan a'n cyfrifon Facebook a Twitter.  Bwriedir i hyn fod yn ffordd o estyn allan at ein holl ddilynwyr a rhoi cyhoeddusrwydd i'r hyn rydym yn ei wneud, gan eu hannog i edrych ar eich gwe-dudalen fel unigolyn, ond hefyd feysydd ehangach ymchwil a chydweithio yn IMEMS.  Mae ein tudalen Facebook yn cyrraedd dros 5,000 ledled y byd, ac mae Twitter wedi ei gysylltu â hi. 

Ein bwriad yw dechrau gyda chyd-gyfarwyddwyr IMEMS ac yna rhoi proffiliau staff iau ac uwch bob yn ail mewn parau (un o bob sefydliad).  Gall y cyfraniadau hyn fod naill ai ar ffurf 'cyfweliadau' neu gael pennawd byr, ac yna cysylltu â'ch gwefan bersonol ym mhob sefydliad neu wefan project yr hoffech i ni ei hyrwyddo. 

Bydd 'dewch i gwrdd â'n haelod X yn IMEMS' yn bennawd i bob cyfraniad.  ‘Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio ag ef/hi, neu eisiau gwybod mwy am weithgareddau IMEMS, ewch i [http://www.imems.ac.uk/index.php.cy].'
Mae'r math yma o gyhoeddusrwydd yn ddewisol, wrth gwrs. Felly, o ystyried nifer aelodau IMEMS, rhowch wybod i ni os NAD YDYCH EISIAU cael eich cynnwys.  Fel arall, o ystyried bod ein holl broffiliau academaidd yn gyhoeddus, byddwn yn symud ymlaen i gael linc rhyngddynt.

Cymrodoriaeth ôl-ddoethurol Marie Sklodowska Curie

Mae cais cyntaf penodol gan IMEMS am gymrodoriaeth Marie Curie wrthi'n cael ei gynllunio. Gellir lleoli'r cymrawd ym Mangor a/neu Aberystwyth a bydd yn gweithio gyda nifer o adrannau. Caiff y cyfle hwn ei hysbysebu ar Facebook, Twitter a gwefan IMEMS, yn annog ymgeiswyr potensial i gysylltu ag aelodau IMEMS i nodi meysydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr. Fe fyddwn i ddechrau yn tynnu sylw at y meysydd canlynol er na fydd hyn yn rhestr gyfyngedig: teithio, diwylliant materol (gan gynnwys llawysgrifau), rhyw a defosiwn, hanes o emosiynau, amser a chof.

Cysylltwch â'r Athro Radulescu os ydych yn gwybod am unrhyw ymgeiswyr addas ac os hoffech fod yn gysylltiedig â'r grant. Mae'r dyddiad cau ar ddiwedd yr haf/ym mis Medi.

Newydd: Canolfan Stephen Colclough am Hanes a Diwylliant y Llyfr

Mae canolfan newydd wedi ei sefydlu ym Mangor fydd yn cael ei henwi ar ôl ein cyn-gydweithiwr y diweddar Dr Stephen Colclough, a oedd yn arbenigwr blaenllaw yn hanes a llyfrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a chyhoeddi.  Caiff y ganolfan ei chyd-gyfarwyddo gan Dr Sue Niebrzydowski (Ysgol Llenyddiaeth Saesneg ) a Dr Eben Muse (Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau). Y gweithgaredd cyntaf oedd Darlithoedd Shankland, sef cyfres o ddarlithoedd cyhoeddus yn arddangos llyfrau a deunyddiau prin yn Llyfrgell a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor. Mae cynlluniau'r ganolfan at y dyfodol yn cynnwys cynhadledd ar y fasnach lyfrau, ac ail gyfres o Ddarlithoedd Shankland. Cyhoeddir rhagor o fanylion am y Ganolfan ar ei gwefan sydd wrthi'n cael ei llunio ar hyn o bryd. 

Bangor: Canolfan newydd ar gyfer Astudiaethau Arthuraidd

Yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau'r llynedd (fel y cyhoeddwyd yn y cylchlythyr blaenorol), mae Canolfan Bangor ar gyfer Astudiaethau Arthuraidd bellach wedi'i sefydlu'n ffurfiol. Mae lansiad ar y gweill ar gyfer yr hydref. Yn y cyfamser rydym wrthi’n trefnu, digwyddiad (sydd eisoes yn profi’n boblogaidd) - sef diwrnod addysgol (ysgolion) yng nghastell Caernarfon (17 Mehefin 2016), gyda mwy na 400 o ddisgyblion eisoes wedi cofrestru. Bydd yr ysgol haf Arthuraidd rhyngwladol hefyd yn cymryd lle ym mis Gorffennaf, a bydd cyfnod preswyl enillydd y gystadleuaeth blog Arthuraidd (menter gydweithredol o'r prosiect AHRC 'The Academic Book of the Future’ a Llyfrgell ac Archifau Bangor, gyda chefnogaeth y gangen Brydeinig y ‘International Arthurian Society’), ddiwedd mis Mehefin /dechrau mis Gorffennaf.

Adroddiadau ar fentrau a phrojectau parhaus:

Cyfrol yn seiliedig ar gynhadledd IMEMS 

Mae cyfrol a olygir yn seiliedig ar y gynhadledd IMEMS gyntaf wrthi'n cael ei baratoi i'r gyfres “Themes in Medieval and Early Modern History” yn Routledge. Caiff y cyhoeddiad ei gyd-olygu gan Dr Rachel Willie, cymrawd anrhydeddus IMEMS (Bangor) a Dr Gabor Gelleri (cyd-gyfarwyddwr IMEMS, Aberystwyth).

Cyfres seminarau 2016-17

Yn dilyn cyfarfod o'r bwrdd rheoli yn gynharach yn y flwyddyn academaidd, penderfynwyd y byddai'r gyfres newydd yn cynnwys nifer o slotiau yn benodol i archwilio un neu ddau o themâu ymchwil mawr: a) 'amser a chof' , dan arweiniad yr Athro Tony Claydon (Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, Bangor) a b) diwylliant materol, gan ganolbwyntio ar y gair ysgrifenedig, dan arweiniad yr Athro Raluca Radulescu (Saesneg, Bangor) a Dr Malte Urban (Saesneg, Aberystwyth).

Y wefan

Parhawyd gyda'r gwaith o ddiweddaru'r wefan a chynhyrchu rhyngwyneb newydd i hwyluso cyfathrebu ac i dynnu sylw at yr ymchwil parhaus a'r llwyddiannau newydd o ran ennill grantiau. Mae rhai o'r cipluniau wedi eu hatodi; anfonwch eich adborth yn syth at Chris Drew os oes gennych unrhyw sylwadau ac awgrymiadau ar gyfer gwella.   Gobeithir y bydd y wefan yn mynd yn fyw ar ddechrau'r haf.

Description: Macintosh HD:Users:chrisdrew:Desktop:Screen Shot 2016-04-27 at 17.12.10.png

Ennill Grantiau

Mae Dr. Gabor Gelléri, ynghyd ag un o brif siaradwyr cynhadledd IMEMS, yr Athro Daniel Carey (NUI Galway), wedi ennill grant ymchwil y Gymdeithas Hakluyt am eu gwaith ar gronfa ddata o draethodau hir ar gelfyddyd teithio. Caiff rhagor o grantiau a phrojectau eu hysbysebu ar y wefan, tudalennau Facebook a Twitter – anfonwch eich hysbysiadau at Fiona Eaton yn Swyddfa'r Gynghrair Strategol (enquiries@aberbangorstrategicalliance.ac.uk).

Site footer