Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Rheolaeth

 

Y Cyfarwyddwyr, Yr Athro Raluca Radulescu ac yr Athro Björn Weiler sy’n rheoli gwaith beunyddiol SACMC.

Bwrdd Rheoli’r Sefydliad sy’n penderfynu ar bolisi. Aelodau’r bwrdd yw’r Cyfarwyddwr, y Dirprwy Gyfarwyddwr, Pennaeth Partneriaeth Aberystwyth a Bangor, y Dirprwy Is-Gangellorion sy’n gyfrifol am Ymchwil yn Aberystwyth a Bangor, a dau gynrychiolydd arall – ar hyn o bryd, yr Athro Thomas Corns (Saesneg, Bangor), a Dr David Ceri Jones (Hanes, Aberystwyth).

Mae’r Bwrdd Rheoli yn cwrdd bob yn ail fis ac yn ymgynghori’n ffurfiol ag arweinwyr ei themâu a’i brosiectau o leiaf deirgwaith y flwyddyn. Cynhelir cyfarfod blynyddol o’r holl aelodau bob gwanwyn.

Mae gan y Sefydliad fwrdd ymgynghorol rhyngwladol dan gadeiryddiaeth yr Athro Lori Anne Ferrell o Brifysgol Raddedigion Claremont, ac yn aelodau o’r bwrdd mae’r Athro Ann Hughes, Prifysgol Keele; yr Athro Catherine McKenna, Prifysgol Harvard; yr Athro Clare Lees, Coleg King's, Llundain; yr Athro Dafydd Johnston, y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd; a’r Athro Philippe Vendrix, Université François-Rabelais de Tours.

 

 

Site footer