Institute of Medieval and Early Modern Studies (IMEMS)
Mae’r rhwydwaith ymchwil rhyngwladol hwn yn cysylltu SACMC �'r Chanolfan Astudiaethau'r Canol Oesoedd a’r Dadeni yng Ngholeg y Drindod, Dulyn. Fe'i sefydlwyd yn 2006, mae'r rhwydwaith hyn yn dwyn ynghyd ysgolheigion, myfyrwyr ac ymchwilwyr annibynnol sy’n ymchwilio i agweddau ar ryfela o’r canol oesoedd cynnar i ddechrau'r ddeunawfed ganrif. Mae’r rhwydwaith yn pwysleisio gwaith rhyngddisgyblaethol, ac mae’n croesawu pawb sy'n ymddiddori yng ngoblygiadau trais ddiwylliannol a lledaenu'r canfyddiadau mewn fforwm academaidd.
Rhoddir y meysydd a fydd o ddiddordeb i gychwyn isod: serch hynny, nid yw'r rhestr yn gyflawn, ac mae’r rhwydwaith yn gobeithio darparu llwyfan i drafodaethau a phrosiectau ar unrhyw agwedd ar ryfel yn y byd cyn-fodern a fyddai’n elwa ar astudiaethau rhyngddisgyblaethol. Y bwriad yw y bydd y meysydd isod yn fannau crisialu i grwpiau o ysgolheigion, a'u haelodau fydd yn diffinio beth yw'r cwestiynau pwysicaf ac yn llunio gweithgareddau i'w hateb.
Am ragor o fanylion am weithgareddau, trafodaethau a phrosiectau’r thema, cliciwch ar y dolenni isod.
Disgwylir mai’r gynhadledd agoriadol hon (13-15 Hydref ym Mhlas Gregynog) fydd y cyfarfod cyntaf mewn cyfres flynyddol a gynhelir ym Mangor a Dulyn yn y blynyddoedd nesaf yn canolbwyntio ar bynciau sy'n cyd-fynd � meysydd ysgolheictod bywiog yr aelodau.
Dr Andrew Hiscock
Cydlynydd y Thema