Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Prosiect Chaucer

Yn ystod gwanwyn 2014 bydd yn bleser gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth a’r Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor (SACMC), ar y cyd â Llyfrgell Huntington, Califfornia, gynnal arddangosfa a fydd yn tynnu sylw at un o drysorau mwyaf y Llyfrgell Genedlaethol, sef llawysgrif Hengwrt o’r Canterbury Tales gan Chaucer. Cred rhai mai dyma’r fersiwn gynharaf o’r clasur llenyddol hwn sydd wedi goroesi.

Bydd ymwelwyr â’r arddangosfa, a gynhelir yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, yn gallu dilyn dwy ‘bererindod’ fer o amgylch yr hyn sy’n cael ei arddangos. Bydd y gyntaf yn dilyn yn ôl-traed ‘The Wife of Bath’, gan ddysgu am fenywod, cariad a phriodas yn yr Oesoedd Canol drwy gyfrwng gemwaith, gwisgoedd a’r seremoni briodasol yn y cyfnod. Bydd yr ail yn dilyn llwybr ‘The Pardoner’, lle gwelwch greiriau (y mae’n ymffrostio’n eironig yn eu cylch yn ei hanes) ac arteffactau sy’n portreadu Uffern, y Saith Pechod Marwol ac effaith y Pla Du.

Bydd y ddau ‘lwybr pererin’ yn uno ym mynediad Oriel Hengwrt, lle bydd y daliadau o’r cyfnod canoloesol a chyfnod diweddarach Chaucer sydd ym meddiant y Llyfrgell Genedlaethol yn cael eu harddangos yng nghyswllt pedair thema sy’n cynrychioli’r diddordebau ymchwil cyfredol yn Chaucer a’i gyfoeswyr. Bydd y thema gyntaf, Archwilio ‘Cysylltiad Adam Pinkhurst’, yn canolbwyntio ar waith Adam Pinkhurst, y sawl a gopïodd fersiwn Hengwrt o Chaucer yn ogystal â llawysgrif Ellesmere o’r Canterbury Tales, sy’n llawn darluniau, ac sy’n cael ei chadw’n awr yng nghasgliad Llyfrgell Huntington, Califfornia; bydd copi digidol o’r ‘chwaer’ lawysgrif hon hefyd i’w weld yn yr arddangosfa. Bydd gan yr ail thema ystod fwy eang yng nghyd-destun Cymru, gan dynnu sylw at Adrodd storïau yng Nghymru’r Oesoedd Canol, a bydd yn cynnwys, ymhlith gweithiau eraill, y Mabinogion yn Llyfr Gwyn Rhydderch (MS Peniarth 4) a barddoniaeth un o gyfoeswyr Chaucer, sef Dafydd ap Gwilym. Bydd y drydedd thema, Testunau Chauceraidd ‘yn croesi ffiniau’, yn archwilio’r derbyniad a gafodd Chaucer yng Nghymru’r Oesoedd Canol, tra bydd y bedwaredd thema, Ôl-fywydau Chauceraidd, yn dangos sut y cafodd gwaith Chaucer ei atgynhyrchu a’i addasu ledled y byd mewn canrifoedd diweddarach, o argraffiad printiedig cyntaf William Caxton i ‘Kelmscott Chaucer’ William Morris a’r tu hwnt.  

Yn ogystal â’r arddangosfa, bwriedir cynnal cynhadledd i gyd-fynd ag agoriad yr arddangosfa yn 2014, ar y thema ‘Chaucer a byd y Canterbury Tales’. Hon fydd y gyntaf mewn cyfres o gynadleddau Hengwrt Chaucer a gynhelir unwaith bob tair blynedd ar agweddau ar waith Chaucer a phynciau llenyddol a hanesyddol cysylltiedig. Mae adnodd gwe parhaol gan y Llyfrgell Genedlaethol, a fydd yn hwyluso cymariaethau rhwng copïau Hengwrt ac Ellesmere o’r Canterbury Tales, hefyd ar y gweill.

 

Site footer