Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Seliau Canoloesol Cymreig

Ar 1 Medi 2009 fe lansiwyd Seliau Canoloesol Cymreig, sef prosiect sylweddol gan y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor sydd wedi’i leoli o fewn yr Adran Hanes a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth. Gyda chyllid grant o dros £490,000 gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Seliau Canoloesol Cymreig yw’r prosiect mwyaf a’r un â’r nawdd uchaf o’i fath o bell ffordd i gael ei gynnal ym Mhrydain erioed. 

Bydd tîm y prosiect (Prif Ymchwilydd: yr Athro Phillipp Schofield (Aberystwyth); Cyd-Ymchwilydd: Dr Sue Johns (Bangor); Uwch-ymchwilydd: Dr Elizabeth New; Ymchwilydd:  Dr John McEwan) yn treulio tair blynedd yn astudio’r seliau a ddefnyddiwyd gan unigolion a sefydliadau ledled Cymru a’r Gororau o ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg i ganol yr unfed ganrif ar bymtheg, gan eu defnyddio i archwilio amrywiaeth eang o faterion sy’n ymwneud â chymdeithas yr Oesoedd Canol.

Mae seliau wedi cael eu defnyddio gan gymdeithasau ledled y byd am dros saith mil o flynyddoedd ac, yn wir, dyma rai o’r cofnodion hanesyddol cynharaf oll. Yng nghyd-destun Prydain, mae seliau canoloesol yn arbennig o bwysig oherwydd mai dewis eu perchennog oeddynt fel arfer, ac o’r herwydd maent yn rhoi cipolwg unigryw ar ystyriaethau personol dynion a menywod ar draws y sbectrwm cymdeithasol, gan gynnwys y rheini nad oes llawer o dystiolaeth arall wedi goroesi yn eu cylch. Tra bod seliau personol yn cynnig cip ar fywydau unigolion, mae seliau swyddogol yn rhoi gwybodaeth am sefydliadau a phobl sydd mewn swyddi llawn grym, ac yr oedd eu delweddau a’u geiriau yn cael eu defnyddio’n aml fel arf propaganda. At hynny, mae seliau sy’n dal i fod ynghlwm wrth y dogfennau yr oeddynt yn eu dilysu yn gallu cael eu dyddio’n fanwl, gan roi gwybodaeth hanfodol sy’n aml ar goll o ffynonellau materol eraill, ac mae hyn yn cynnig y potensial ar gyfer cronoleg eiconograffig ac arddulliol.

Er gwaethaf yr amrywiaeth o ddelweddau a geiriau a geir ar seliau, a’r cyfoeth o wybodaeth a geir yn sgil hyn, mae seliau yn dal i fod yn ffynhonnell na fanteisiwyd yn ddigonol arni ar gyfer ymchwil hanesyddol. Cam cyntaf y prosiect Seliau Canoloesol Cymreig fydd cofnodi tua 5,000 o seliau. Yna bydd y tîm yn cychwyn drwy ofyn cwestiynau sylfaenol megis pwy ddefnyddiodd y seliau a pha ddelweddau a geiriau sy’n ymddangos arnynt. Bydd hyn yn arwain at archwilio, ymhlith pethau eraill, sut y gall y deunydd hwn hyrwyddo ein dealltwriaeth o hunaniaethau (rhai personol ac ar y cyd), diwylliannau gwleidyddol, rhwydweithiau cymdeithasol-economaidd a theuluol, cysylltiadau defosiynol a datblygiad strwythurau cyfreithiol a gweinyddol yng Nghymru’r Oesoedd Canol.

Er y bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar Gymru a’r Gororau, bydd maint Seliau Canoloesol Cymreig yn ei alluogi i fwydo astudiaethau yn y dyfodol ar y defnydd o seliau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, o safbwynt methodoleg a gwaith deongliadol.

Bydd Seliau Canoloesol Cymreig yn creu’r cynnyrch canlynol:

  • Llyfr nodedig wedi’i gyd-ysgrifennu gan dîm y prosiect.

  • Delweddau dethol o ansawdd uchel o tua 350 o seliau, gyda sylwebaeth ddeongliadol ddwyieithog a deunyddiau cefnogi dysgu, i’w darparu ar-lein drwy gyfrwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

  • Arddangosfa gyhoeddus yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (Ebrill-Mehefin 2012), gydag arddangosfa deithiol fechan i ddilyn.

  • Deunyddiau dysgu yn seiliedig ar yr arddangosfa ac ymchwil ehangach y prosiect, fel adnodd dysgu i ysgolion.

  • Gweithgareddau allgyswllt, gan gynnwys gweithdai i weithwyr proffesiynol ym maes treftadaeth, grwpiau hanes a diddordeb lleol, ac ysgolion.

  • Cynhadledd ar seliau canoloesol (Ebrill 2012).

  • Cyfres o erthyglau wedi’u hadolygu gan gymheiriaid.

Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.aber.ac.uk/history/research/simew.html neu cysylltwch â smwstaff@aber.ac.uk

 

 

 

 

 

Site footer