Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Canolfan Prydain ac Iwerddon yr Adferiad

Mae Canolfan Prydain ac Iwerddon yr Adferiad yn adeiladu ar sail cyfres o gynadleddau hynod o lwyddiannus sydd wedi’u cynnal ym Mangor er 2005. Bob dwy flynedd mae pawb sydd â diddordeb yn hanes, crefydd a diwylliant teyrnasoedd Stiwartaidd yng nghyfnod teyrnasiad Siarl II, Iago II a William III wedi cael eu gwahodd i Eryri am dridiau o drafodaethau ynglŷn â’r degawdau holl bwysig hyn yn hanes Prydain ac Iwerddon. Mae ysgolheigion blaenllaw o faes hanes, llenyddiaeth, hanes celf, diwinyddiaeth a disgyblaethau eraill wedi traddodi papurau mewn cyfarfodydd llawn; ac mae paneli wedi’u cynnull o blith grwpiau o ymchwilwyr arloesol eraill a myfyrwyr graddedig; â phob cyfarfod yn canolbwyntio ar ddegawd  (y 1660au yn 2005; y 1670au yn 2007; y 1680au yn 2009). Mae’r gynhadledd bellach yn cael ei chydnabod fel un o brif fforymau’r byd ar gyfer trafod cyfnod yr Adferiad.

Dan arweiniad yr Athro Tony Claydon a’r Athro Thomas Corns, mae’r Ganolfan yn meithrin trafodaeth barhaus rhwng aelodau yn y cyfnodau rhwng y cyfarfodydd bob dwy flynedd. Gan ddefnyddio grwpiau e-bost, cyfryngau eraill a chyfarfodydd bychain wyneb yn wyneb, mae’n annog datblygiad pellach ar drafodaethau a gychwynnwyd yn y cynadleddau, ac yn dechrau ffurfio grwpiau panel a gosod themâu ar gyfer cynadleddau’r dyfodol.

Os hoffech gael eich ychwanegu at restr bostio’r Ganolfan, anfonwch neges at t.claydon@bangor.ac.uk. Am fanylion am ddigwyddiadau a gynhaliwyd eisoes, cliciwch ar y dolenni isod:

Yr Athro Tony Claydon
Yr Athro Thomas Corns

Cyfarwyddwyr y Ganolfan

 

 

 

 

 

 

 

Site footer