Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Gwleidyddiaeth, Crefydd a Diwylliant ym Mhrydain ac Iwerddon yn y 1670au

Cynhaliwyd y gynhadledd hon ym Mangor ar 24-26 Gorffennaf 2007, a bu’n ystyried digwyddiadau a chynnyrch ysgrifenedig y cyfnod rhwng Cytundeb Dover a diddymu Senedd Rhydychen yn 1681. Cafwyd sgyrsiau mewn cyfarfodydd llawn gan Sharon Achinstein (Rhydychen), Martin Dzelzains (Llundain), Tim Harris (Brown), Nigel Smith (Princeton), John Spurr (Abertawe), a James Grantham Turner (UC Berkeley), ac er i’r gynhadledd drafod amrywiaeth o bynciau – o nawdd artistig ac ysgrifennu gan fenywod i’r cwestiwn Prydeinig a’r byd cyhoeddus – fe ganolbwyntiodd yn y diwedd ar y trafodaethau cyfoes ynghylch cadw trefn ar ffydd uniongred a moesoldeb mewn cymdeithas lle roedd y cytundeb ynghylch hanfodion sylfaenol cred ac ymddygiad wedi chwalu. Mae’n bosibl mai chwalu’r consensws hwn oedd gwir argyfwng y degawd, ac i’r tensiynau gwleidyddol sy’n fwy cyfarwydd, a’r mynegiadau llenyddol ohonynt, ddigwydd o ganlyniad i hynny. Mae cyfrol o bapurau dethol o’r gynhadledd ar y gweill gan Wasg Prifysgol Cymru.  

Yr Athro Tony Claydon
Yr Athro Thomas Corns

 

 

 

Site footer