Gwleidyddiaeth, Crefydd a Diwylliant ym Mhrydain a Lloegr yn y 1680au
Cynhaliwyd y gynhadledd hon ddiwedd mis Gorffennaf 2009 ym Mangor, a bu’n ystyried pob agwedd ar y cyfnod ym Mhrydain ac Iwerddon rhwng dechrau’r argyfwng eithrio yn 1679 a choroni William a Mary yn 1689. Yr oedd yn cynnwys themâu a awgrymwyd gan ddigwyddiadau’r blynyddoedd hyn, ond ni chyfyngwyd y gynhadledd i hynny, a thrafodwyd, er enghraifft, ddatblygiadau mewn damcaniaeth wleidyddol a chyfansoddiadol, syniadau o oddefiad a gwrth-babyddiaeth, datblygiadau llenyddol wedi marwolaeth Milton a Marvell, perthnasau Eingl-Geltaidd a rhwng Prydain a’r Iseldiroedd, diwylliant y llys, lluniadau o’r deuryw a natur propaganda printiedig.
Yr Athro Tony Claydon
Yr Athro Thomas Corns