Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Menywod a’r Cysegr

Mae’r thema ymchwil hon yn SACMC yn adeiladu ar sail arbenigedd llawer o ysgolheigion yn Aberystwyth a Bangor ar y berthynas rhwng y deuryw a’r profiad crefyddol yn y cyfnodau canoloesol a modern cynnar. Ymhlith y pynciau penodol (sy’n cael eu hastudio gan haneswyr, cerddoregwyr ac arbenigwyr ym meysydd llên, y gyfraith ac astudiaethau Celtaidd) mae barddoniaeth ddefosiynol gan fenywod; cerddoriaeth grefyddol a pherfformiadau gan fenywod; awduraeth y deuryw – gan gynnwys ysgrifennu hunangofiannol ac ysgrifennu am y cartref; bywydau menywod mewn lleoliadau cysegredig, o gell y meudwy i'r ddistyllfa ddomestig; crefydd ac oedran menywod; arferion darllen y deuryw; a menywod yn cyfrannu at grwpiau neu leoliadau anuniongred. Er y bydd yn cefnogi’r gwaith ymchwil hwn, prif nod y thema yw dod â phobl ynghyd i greu astudiaethau rhyngddisgyblaethol newydd, a hybu gwaith cydweithredol gydag ysgolheigion ymhell y tu hwnt i’r ddau sefydliad sy’n gartref i SACMC. Cred arweinwyr y thema mai dim ond drwy gydweithredu o’r fath y gallwn ddeall yn iawn y rhyngweithio cynnil a chymhleth rhwng menywod a’r agweddau hynny ar fywyd y gellid eu disgrifio'n gysegredig.

Mae’r ymchwil a wneir dan y thema hon yn cynnwys dadansoddi gwrywdod mewn perthynas â benywdod, ac mae croeso i arbenigwyr ym mhob agwedd ar y deuryw a chrefydd ymuno â'r digwyddiadau a'r trafodaethau, ond erys y prif bwyslais ar brofiad menywod o'r cysegr. Dyma faes sydd wedi’i esgeuluso mewn meysydd megis hanes eglwysig a chymdeithasol, astudiaethau ar lenyddiaeth sy'n canolbwyntio ar ganon sefydledig, a cherddoreg: drwy astudio’r maes ar draws y disgyblaethau mae’n debygol y gwneir darganfyddiadau newydd cyffrous ynghylch diwylliannau a chymdeithasau’r gorffennol, yn ogystal â rhoi golwg newydd ar y byd cyfoes, lle mae'r ymatebion i ffydd yn bynciau llosg.

I ddysgu mwy am weithgareddau thema ‘Menywod a’r cysegr’, ac i ymuno â’r trafodaethau, cliciwch ar y dolenni isod:

Yr Athro Helen Wilcox

Cydlynwr y thema

 

 

 

Site footer