Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Menywod canoloesol yn eu trydedd oes: canol oed yn y Canol Oesoedd

Dan nawdd yr Academi Brydeinig a’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, cafodd y gynhadledd ryngddisgyblaethol hon ei chynnal gan SACMC ac Ysgol Saesneg Bangor, a hynny ym Mhrifysgol Bangor, rhwng 12 ac 14 Medi 2007. Roedd y gynhadledd yn archwilio sut beth oedd bod yn fenyw ganol oed yn y Canol Oesoedd, gan ofyn cwestiynau radical a phryfoclyd ynghylch pryd yr ystyrid bod menyw yn ganol oed yn y cyfnod hwn. Beth oedd hyn yn ei olygu i’w chanfyddiad hi ohoni ei hun, a beth oedd canfyddiad eraill ohoni? Bu cynulleidfa o fyfyrwyr graddedig, aelodau o’r cyhoedd a’r gymuned ysgolheigaidd yn clywed sgyrsiau am wragedd, gweddwon a meudwyesau, ac ieithwedd, rhywioldeb ac arferion claddu menywod gan Jane Geddes, Roberta Gilchrist, Clare Lees, Nicola McDonald, Carol Meale, Sue Niebrzydowski, Helen Phillips, Raluca Radulescu, Sara Elin Roberts, Corinne Saunders a Diane Watt, yn deillio o amrywiaeth o ddisgyblaethau cysylltiedig: llenyddiaeth, hanes archaeoleg, hanes celf a’r gyfraith. Bu’r gynhadledd yn archwilio ‘grym matron’ yn y Canol Oesoedd, a daeth i’r casgliad nad oedd y cyfnod hwn ym mywyd menyw yn un a oedd yn cael ei wastraffu gyda rhamant ganoloesol. Llwyddodd y digwyddiad i ddenu sylw mawr a chafodd ei drafod ar y radio yn lleol ac yn rhyngwladol, ac yn y wasg yn lleol ac yn genedlaethol. Mae papurau’r gynhadledd ar fin cael eu cyhoeddi mewn cyfrol gan Boydell and Brewer dan olygyddiaeth trefnydd y gynhadledd, Dr Sue Niebrzydowski s.niebrzydowski@bangor.ac.uk

 

 

Site footer