Institute of Medieval and Early Modern Studies (IMEMS)

Bangor University Bangor Univesity website Aberystwyth website
Aberystwyth University

Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar

Slideshow of images for Institute of Medieval and Early Modern Studies (IMEMS)

Croeso i wefan y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC) yn Aberystwyth a Bangor. Nod SACMC yw hyrwyddo ymchwil i’r cyfnod rhwng 500 a 1800 hithau nawr yn gyfnod o newid yn ysgolheictod y dyniaethau.

Er y bydd gan arbenigwyr unigol bob amser eu rhan hwy i’w chwarae ar eu prosiectau eu hunain, mae llawer o’r darganfyddiadau mwyaf cyffrous ym meysydd hanes, llên, cerddoriaeth, diwinyddiaeth, ac astudiaethau Celtaidd ac Ewropeaidd yn ffrwyth ymchwil timoedd sy'n cwmpasu sawl pwnc a sawl sefydliad. Mae SACMC yn hybu’r ffordd hon o weithio drwy fanteisio ar ragoriaeth yr ysgolheigion yn Aberystwyth a Bangor; drwy ddod â hwy ynghyd i ddiffinio cwestiynau deallusol newydd ac i ymdrin â'r cwestiynau hynny; a thrwy eu rhoi mewn cysylltiad ag ymchwilwyr blaenllaw mewn sefydliadau, llyfrgelloedd a phrifysgolion eraill i greu timoedd ymchwil o safon fyd-eang.

O'i gartref yng Nghymru, mae SACMC yn creu cyswllt ag ysgolheigion ledled gwledydd Prydain, Ewrop, Gogledd America, Awstralasia a’r tu hwnt, gan ddefnyddio'r technolegau diweddaraf o ran cyfryngau a chyfathrebu i greu ffyrdd newydd o gydweithredu dros bellteroedd. Serch hynny, mae hefyd yn estyn gwahoddiad i ymchwilwyr o bedwar ban byd i ddod i gynadleddau, gweithdai a thrafodaethau yn ei gartref prydferth yn Eryri a Bae Ceredigion. Bydd SACMC yn rhannu ei ddarganfyddiadau ymchwil drwy gyhoeddiadau academaidd; ac fe fydd yn cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach (fel arfer drwy gydweithredu â chyrff eraill megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru) drwy ei wefan a thrwy noddi arddangosfeydd, perfformiadau a darlithoedd cyhoeddus.

Mae SACMC wedi nodi pedair thema ymchwil gychwynnol, lle mae gan ei aelodau gryfderau sylweddol ar draws y disgyblaethau, ac mae wrthi’n canolbwyntio ar ei gysylltiadau rhyngwladol ac yn diffinio ei brosiectau ymchwil yn y meysydd hyn. I gael gwybod beth sy’n digwydd dan bob thema, ac i gysylltu â’r ymchwilwyr, cliciwch ar y dolenni isod.

Mae SACMC hefyd yn cynnwys Canolfannau Ymchwil ym Mangor ac Aberystwyth, ac mae’n rhedeg seminar ymchwil trwy gyswllt fideo – mae’r rhain hefyd yn ceisio creu cyswllt ag ysgolheigion rhyngwladol a hybu ymchwil ar draws y disgyblaethau: cliciwch ar y dolenni i gael gwybod beth sy’n digwydd:

Gobeithio y mwynhewch ddarllen am waith ymchwil cyffrous SACMC, ac y byddwch am fod yn rhan o'n cyfarfodydd, ein trafodaethau a'n hymchwiliadau.

Helen Wilcox
Cyfarwyddwr