Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Canolfan Astudiaethau Canoloesol Bangor

Mae’r Ganolfan Astudiaethau Canoloesol yn darparu fforwm ar gyfer ymwneud deallusol rhwng staff ac uwchraddedigion ar draws yr adrannau prifysgol ym Mangor, ac mae’n meithrin cydweithrediad y tu hwnt i Fangor drwy gyfrwng SACMC a CARMEN (menter gydweithredol newydd, sef y Co-operative for the Advancement of Research through a Medieval European Network).

Mae Canolfan Astudiaethau Canoloesol Bangor yn hybu ymchwil ac addysgu ar lefel israddedig ac uwchraddedig, ac mae’n annog mentrau sy’n cynnwys mwy nag un adran. Ar hyn o bryd, ei gweithgaredd canolog yw’r gyfres o seminarau ymchwil canoloesol, sy’n parhau dan y thema ‘Rhyngwyneb(au) diwylliannol yn y byd canoloesol’. Mae gweithgareddau eraill sydd wedi’u hanelu at fyfyrwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol yn cael eu datblygu ar hyn o bryd – gan gynnwys ysgol haf mewn astudiaethau canoloesol.

Drwy gyfrwng y cydweithredu â SACMC, a gyda chyllid gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), bu’r Ganolfan yn rhedeg rhaglen o hyfforddiant paleograffeg a  llawysgrifeg dwys ar gyfer uwchraddedigion astudiaethau canoloesol (gan gynnwys hyfforddiant trwy gyfrwng y Gymraeg) yn ystod  2005/6. Er 2007 mae’r rhaglen yn cael ei chefnogi gan Ysgol Raddedigion newydd Bangor, ac mae’n parhau i gael ei chynnal ar sail ryngddisgyblaethol (gweler y dolenni isod am fanylion). Mae Canolfan Astudiaethau Canoloesol Bangor hefyd yn cefnogi’r gynhadledd uwchraddedig ryngddisgyblaethol mewn astudiaethau canoloesol, ‘Medievalism Transformed’, sydd bellach ar ei phedwaredd flwyddyn.

Oherwydd ei hagwedd ryngddisgyblaethol, mae Canolfan Astudiaethau Canoloesol Bangor yn lle delfrydol i ddatblygu prosiectau lleol sy’n cynnwys staff, myfyrwyr ymchwil ac, o bryd i’w gilydd, y gymuned leol. Mae’r amrediad o arbenigedd yn y Ganolfan, ei chyswllt â chanoloeswyr a’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth trwy gyfrwng SACMC, a’i darpariaeth bresennol o seminarau, hyfforddiant a chynadleddau ysgogol, yn golygu ei bod yn lle deniadol ar gyfer astudiaethau uwchraddedig ym maes astudiaethau canoloesol.

Dolenni

Canolfan Astudiaethau Canoloesol Bangor

http://www.bangor.ac.uk/english/medieval/index.php.cy?

Hyfforddiant paleograffeg

www.bangor.ac.uk/palaeography_training?index.php

Cynhadledd Uwchraddedig Flynyddol ym maes Astudiaethau Canoloesol

www.bangor.ac.uk/medievalismtransformed/

 

 

 

 

Site footer