UWB Crest

Institute of Medieval and Early Modern Studies (IMEMS)

Bangor University Bangor Univesity website Aberystwyth website
Aberystwyth University

Rheolaeth

Slideshow of images for Institute of Medieval and Early Modern Studies (IMEMS)

Y Cyfarwyddwr, Yr Athro Helen Wilcox (Saesneg, Bangor), sy’n rheoli gwaith beunyddiol y Sefydliad Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar, gyda chymorth y Dirprwy Gyfarwyddwr, Yr Athro Diane Watt (Saesneg, Aberystwyth) a staff swyddfa’r Bartneriaeth Ymchwil a Menter.

Bwrdd Rheoli’r Sefydliad sy’n penderfynu ar bolisi. Mae’r aelodau’n cynnwys y Cyfarwyddwr, y Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfarwyddwr y Bartneriaeth, y Dirprwy Is-Gangellorion Ymchwil yn Aberystwyth a Bangor, a dau gynrychiolydd arall  - ar hyn o bryd Yr Athro Thomas Corns (Saesneg, Bangor) a Dr David Ceri Jones (Hanes, Aberystwyth).

Mae holl aelodau’r Bwrdd Rheoli yn cyfarfod i ymgynghori unwaith y flwyddyn, ac fe gynhelir panelau i benaethiaid adran ac arweinwyr y themâu a’r prosiectau ddwywaith y flwyddyn.

Y mae gan y Sefydliad fwrdd ymgynghorol rhyngwladol a gadeirir gan Yr Athro Lori Anne Ferrell o Brifysgol Raddedigion Claremont.