Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Calfiniaeth yng Nghymru

 

Nod y prosiect sylweddol hwn, dan arweiniad Dr David Ceri Jones (Hanes, Aberystwyth), yr Athro Tony Claydon (Hanes, Bangor), yr Athro Densil Morgan (Diwinyddiaeth, Llanbedr Pont Steffan) a’r Athro Lori Anne Ferrell (Hanes a Saesneg, Prifysgol Raddedigion Claremont), yw cwblhau hanes diffiniol Calfiniaeth yng Nghymru rhwng yr unfed ganrif ar bymtheg a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd yr agwedd ddiwinyddol hon yn holl bwysig i hanes a diwylliant Cymru yn y cyfnod. Yn y lle cyntaf, dyma oedd credo swyddogol eglwys a ystyriai fod Cymru yn ‘gilfach dywyll’ yr oedd angen ei hefengylu ar frys, ond bu hefyd yn fodd o gynnal synnwyr o arwahanrwydd Cymru trwy hybu ei hiaith unigryw mewn pregeth, gweddi a chyfieithiadau Beiblaidd. Yna daeth Calfiniaeth yn ganolog i rai mathau o hunaniaeth Gymreig wrth i fersiwn Cymru o Fethodistiaeth ymwahanu oddi wrth y math Arminaidd Saesneg, a dyna fu dechrau cyswllt clòs y wlad ag anghydffurfiaeth Brotestannaidd.

Mae deall rôl Calfiniaeth yng Nghymru, felly, yn holl bwysig er mwyn deall Cymru ei hun yn y cyfnod hwn, ond mae hefyd yn codi llawer o gwestiynau cysylltiedig. Sut y gwnaeth credo a ffurfiwyd yn academïau Ffrainc ymdopi ac addasu wrth iddi ymestyn i ranbarth fynyddig ar ffin ogledd-orllewinol Ewrop? Sut y gallai arddel y set hon o syniadau fod wedi caniatáu i rai Cymry greu hunaniaeth ar wahân i’r diwylliant Seisnig goruchafol? I ba raddau y gwnaeth efengylu gan Galfinwyr o Gymru osod Cymru yng nghalon rhwydweithiau crefyddol a wnaeth ymestyn ar draws Prydain, Ewrop a’r Iwerydd?

Ar hyn o bryd, mae arweinwyr y prosiect yn casglu syniadau am ddulliau, materion, themâu a chyfranwyr ar gyfer hanes diffiniol Calfiniaeth Gymreig cyn 1900. Os hoffech rannu eich syniadau â hwy, anfonwch neges e-bost at Tony Claydon: t.claydon@bangor.ac.uk 

 

 

 

 

 

Site footer