Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Canllaw Cyfraith Hywel

Prif Ymchwilydd: Dr. Sara Elin Roberts

Cynorthwyydd Ymchwil: Bryn Jones

Amcan y prosiect yw cwblhau’r gwaith cefndirol a’r lawysgrifau Cyfraith Hywel. Dengys lawysgrifau cyfreithiol Cymreig destun llac o ran geirio ac hefyd o ran trefn y testun. Er bod llawer o waith wedi ei wneud yn y maes, yr ydym ymhell o fod â darlun cyflawn o’r deunydd sydd yn llawysgrifau Cyfraith Hywel. Bydd y prosiect hwn felly yn darparu rhestr o gynnwys pob llawysgrif cyfraith, ac bydd ffrwyth yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi mewn cronfeydd data ar y we. Bydd llyfryddiaeth lawn, anodiadol o’r gweithiau sy’n cyfeirio at Gyfraith Hywel hefyd yn cael ei gyhoeddi ar y we, gyda thraethodynnau yn esbonio natur gwahanol adrannau y gyfraith.

Pwrpas y prosiect felly yw:

  • Darparu darlun cyflawn o gynnwys pob llawysgrif o gyfraith canoloesol Gymraeg sydd mewn bodolaeth.

  • Cyhoeddi’r ymchwil ar ffurf cronfa ddata y gellid ei chwilio ar y we fel y gall aelodau o’r cyhoedd gael mynediad at llawysgrifau cyfreithiol Cymreig.

  • Darparu disgrifiad o’r ysgolheictod sy’n ymwneud a Chyfraith Hywel.

  • Cynnig cyflwyniad i’r gyfraith i’r rhai sy’n newydd i’r maes.

  • Darparu canllaw i gyfraith Gymreig ganoloesol.

  • Darparu canllaw arbenigol i lawysgrifau cyfreithiol Cymreig.

 

 

 

 

Site footer