Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Prosiect COST

Nod y Rhwydwaith (Action) hwn yw cydlynu’r gweithgareddau ymchwil sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd mewn nifer o brifysgolion a sefydliadau ymchwil Ewropeaidd, a chreu (rhith) ganolfan arbenigedd i astudio diwylliant grefyddol Ewrop y Canol Oesoedd a’r cyfnod modern cynnar, cyfnod a bortreadir yn draddodiadol fel un o ddiffyg dilyniant diwylliannol ac o gyferbynnu pegynol rhwng y dysgedig (Lladin) a’r annysgedig (ieithoedd brodorol) a rhwng yr hierarchiaeth eglwysig a’r credinwyr lleyg. Gan herio disgrifiadau ystrydebol am y modd yr eithriwyd lleygwyr a phobl nad oeddynt yn medru’r Lladin o fywyd crefyddol a diwylliannol y cyfnod, bydd y Rhwydwaith hwn yn canolbwyntio ar ail-greu’r broses o ryddhau’r lleygwyr a chreu "cymunedau o ddehongliadau” newydd. Bydd y Rhwydwaith felly’n dadansoddi partymau o ran cynhwysiant ac eithrio cymdeithasol ac yn edrych ar newidiadau yn y berthynas hierarchaidd ymhlith grwpiau, unigolion a’u hieithioedd, gan fwrw goleuni newydd ond hanesyddol ar themau sy’n hynod berthnasol i gymdeithasau’r byd sydd ohoni.

Mae Elisabeth Salter yn aelod o’r Pwyllgor Rheoli, yn gydlynydd Grwp Gwaith 1 "Dulliau Damcaniaethol" ar y cyd â’r Dr Pavlina Rychterova, Prifysgol Vienna, ac yn aelod o’r tîm Golygyddol ar gyfer y gyfres ‘Communities of Interpretation’ a gyhoeddir gan Brepols.

Am ragor o wybodaeth gweler COST Action IS 1301 New Communities of Interpretation: Contexts, Strategies and Processes of Religious Transformation in Late Medieval and Early Modern Europe. Rhwydwaith Ewropeaidd: Dros 130 o ymchwilwyr o 20 o wledydd.

 

Site footer