Institute of Medieval and Early Modern Studies (IMEMS)

Bangor University Bangor Univesity website Aberystwyth website
Aberystwyth University

Menywod a’r Cysegr

Slideshow of images for Institute of Medieval and Early Modern Studies (IMEMS)

Mae’r thema ymchwil hon yn SACMC yn datblygu arbenigedd llawer o ysgolheigion yn Aberystwyth a Bangor yn y berthynas rhwng y deuryw a’r profiad crefyddol yn y cyfnodau canoloesol a modern cynnar. Ymhlith y pynciau penodol (sy’n cael eu hastudio gan haneswyr, cerddoregwyr, ac arbenigwyr ym meysydd ll�n, y gyfraith ac astudiaethau Celtaidd) y mae barddoniaeth ddefosiynol menywod; cerddoriaeth grefyddol a pherfformiadau gan fenywod; awduriaeth y deuryw – gan gynnwys bywgraffiadau ac ysgrifennu am y tŷ; bywydau menywod mewn lleoliadau cysegr, o gell y meudwy i'r ddistyllfa ddomestig; crefydd ac oedran menywod; arferion darllen y deuryw; a menywod yn cyfranogi o grwpiau neu leoliadau anuniongred. Serch hynny, wrth fynd ar drywydd y cwestiynau hyn, prif nod y thema fydd dod � phobl ynghyd i ffurfio astudiaethau rhyngddisgyblaethol newydd, a hybu gwaith cydweithredol gydag ysgolheigion ymhell y tu hwnt i ddau gartref SACMC. Cred arweinwyr y thema mai dim ond drwy gydweithredu o’r fath y byddwn ni’n deall yn iawn y cysylltiadau cynnil a chymhleth rhwng menywod a’r agweddau hynny ar fywyd y gellid eu disgrifio'n gysegredig.

Mae’r ymchwil a gynhelir yn y thema hon yn cynnwys dadansoddi gwrywdod a’i berthynas � benywdod, ac mae croeso i arbenigwyr ym mhob agwedd ar y deuryw a chrefydd i ymuno �'r digwyddiadau a'r trafodaethau, ond ar brofiad menywod o'r cysegr y bydd y prif bwyslais.  Dyma faes sydd wedi’i esgeuluso mewn meysydd megis hanes eglwysig a chymdeithasol, yr astudiaethau ar lenyddiaeth sy'n canolbwyntio ar y canon sefydledig, a cherddoreg: drwy astudio’r maes ar draws y disgyblaethau mae’n debygol y gwneir darganfyddiadau cyffrous a newydd i ddiwylliannau a chymdeithasau’r gorffennol, yn ogystal � rhoi golwg newydd ar y byd sydd ohoni lle mae'r ymatebion i ffydd yn bwnc llosg.

I ddarllen mwy am weithgareddau thema ‘Menywod a’r cysegr’, ac i ymuno �’u trafodaethau, cliciwch ar y dolenni isod.

Yr Athro Helen Wilcox
Yr Athro Diane Watt

Cydlynwyr y Thema