Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cyfoeth yng Nghymru, 1290-1700

 

 

Dyma brosiect sylweddol sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer nawdd allanol gan Phillipp Schofield (Hanes, Aberystwyth: prs@aber.ac.uk) a Nia Powell (Hanes, Bangor: n.m.w.powell@bangor.ac.uk). Bydd yn archwilio a yw hanesyddiaeth economaidd draddodiadol Cymru (sydd wedi cymryd yn ganiataol bod tir mynyddig y wlad a’i safle ymylol wedi cyfyngu ar y posibiliadau iddi fod yn llewyrchus ac yn soffistigedig yn ddiwylliannol) wedi camliwio ein dealltwriaeth o’r gorffennol. Mae astudiaethau peilot yn awgrymu y ceid gwahaniaethau rhanbarthol mawr o safbwynt cyfoeth yng Nghymru yn y cyfnod canoloesol a’r cyfnod modern cynnar, gydag o leiaf rai o ardaloedd yr ucheldir a rhai canolfannau dinesig yn elwa yn economaidd drwy gyfrannu at rwydweithiau masnachu ehangach, yn aml yn seiliedig ar fugeilyddiaeth a oedd yn syndod o broffidiol. Nod y prosiect fyddai profi canfyddiadau yr astudiaethau peilot hyn drwy ddadansoddi’r holl ffynonellau ar gyfer hanes economaidd yng Nghymru yn y cyfnod 1290-1700. Ymhlith y rhain mae cofnodion ystâd a chofnodion trethiant, cyfreithiol, corfforaethol ac eglwysig – ond hefyd ffynonellau llenyddol a ddefnyddir i ddarparu cyd-destun ansoddol ar gyfer rhywfaint o’r deunydd meintiol.

 

 

 

 

Site footer