Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Protestaniaeth Drawsiwerydd, 1660-1789

 

Bu i ymddangosiad efengyliaeth yn negawdau canol y ddeunawfed ganrif newid y dynamig crefyddol o fewn Protestaniaeth Saesneg ei hiaith. Roedd efengyliaeth o’r cychwyn yn fudiad trawsgenedlaethol, byd-eang hyd yn oed, a lwyddodd i ddymchwel y cydbwysedd rhwng canolfannau sefydledig a’r ymylon. Roedd yn fudiad a ddenodd ynghyd bobl o’r un anian ledled y byd Saesneg ei iaith, yn ogystal ag ymhell y tu hwnt i hynny.

Un o’r ffyrdd y rhoddwyd llais i’r mudiad oedd drwy weithgareddau rhyngwladol ei ffigyrau amlycaf. Bu iddynt addasu technolegau a chyfryngau newydd i greu rhwydweithiau trawsgenedlaethol yn seiliedig ar eu teithiau, eu llythyrau, eu papurau newydd, eu pamffledi a’u llyfrau eu hunain. Y mwyaf entrepreneuraidd o’u plith oedd George Whitefield (1714-70), tad Methodistiaeth yn Lloegr, sylfaenydd Methodistiaeth Galfinaidd, ond un a oedd hefyd yn brif bregethwr teithiol y mudiad efengylaidd yn ei gyfnod cyntaf. Hwylusodd ef y rhyngweithio rhwng efengylwyr yn rhannau cyfansoddol Ynysoedd Prydain, y trefedigaethau Americanaidd a sawl rhan o’r Ewrop Brotestannaidd. Roedd mor enwog a phoblogaidd fel iddo gael ei ddisgrifio’n ddiweddar fel ‘seléb crefyddol cyntaf y byd Eingl-Americanaidd’.

Cynhyrchodd Whitefield ohebiaeth swmpus yn ystod ei fywyd cyhoeddus, o ddechrau’r 1730au hyd ei farwolaeth yn 1770. Mae’n un o gasgliadau epistolaidd mwyaf nodedig y ddeunawfed ganrif. Mae’n croesi’r Iwerydd, gan adlewyrchu safle Whitefield fel un o arweinwyr y Diwygiad Efengylaidd yn Ynysoedd Prydain ac un o brif ysgogwyr y Deffroad Mawr yn y trefedigaethau Americanaidd. Mae’n cynnwys gohebiaeth rhwng Whitefield a llawer o ffigyrau amlycaf yr oes, gan gynnwys y brodyr Wesley, Philip Doddridge, Howel Harris, Iarlles Huntingdon, Iarll Zinzendorf, Jonathan Edwards a Benjamin Franklin, yn ogystal â llythyrau personol gan efengylwyr na fyddem yn gwybod amdanynt fel arall. Mae’r rhain yn rhoi cipolwg rhyfeddol ar natur ysbrydolrwydd efengylaidd cynnar, ac yn caniatáu i haneswyr ffurfio dealltwriaeth fwy haenog o efengyliaeth gynnar.

Gadawyd gohebiaeth Whitefield heb ei chyffwrdd, fwy na heb, ers i John Gillies gynhyrchu tair cyfrol o lythyrau wedi’u golygu’n helaeth yn rhan o’i gyhoeddiad chwe chyfrol Works of George Whitefield yn 1771. Mae haneswyr Methodistiaeth a chofianwyr Whitefield oll yn cwyno am y diffyg deunydd ffynhonnell yn ei gylch. Dan arweiniad Dr David Ceri Jones (Hanes, Aberystwyth: dmj@aber.ac.uk) a’r Athro Bruce Hindmarsh (Regent College, Vancouver), nod y prosiect hwn yw cynhyrchu’r argraffiad beirniadol cyntaf o ohebiaeth George Whitefield.

 

 

 

Site footer