UWB Crest

Institute for Medieval and Early Modern Studies (IMEMS)

Bangor University Bangor Univesity website Aberystwyth website
Aberystwyth University

Cynhadledd Ryngwladol "Ar berthynas dynwared a’r driniaeth o destun? Y Motét tua 1500"

Slideshow of images for Institute for Medieval and Early Modern Studies (IMEMS)

Cynhaliwyd y gynhadledd ym Mangor o ddydd Iau 29 Mawrth hyd at ddydd Sul 1 Ebrill 2007.

Yn ôl doethineb gonfensiynol, fe welodd y blynyddoedd o amgylch 1500 newid sylfaenol yn y modd yr oedd cerddoriaeth bolyffonig yn cael ei chyfansoddi. Mewn erthygl a gyhoeddwyd yn 1979 dan y teitl "On the relationship of imitation and text treatment in the Age of Josquin", mae Ludwig Finscher wedi diffinio ffiniau’r newid hwn mewn arddull a’u canolbwyntio ar ddwy dechneg gerddorol – gosod testun a dynwared – ac ar un cyfansoddwr: Josquin Desprez. Nod y gynhadledd "Ar Berthynas Dynwared a’r Driniaeth o Destun. Y Motét tua 1500" oedd profi damcaniaeth Finscher trwy drafod nifer o gwestiynau cysylltiedig: y dewis o destunau a’r modd yr oedd y testun yn cael ei osod i’r gerddoriaeth; y newid canfyddedig o saernïaeth cantus firmus ‘strwythurol’ i wrthbwynt dynwaredol rhydd; cwestiwn ‘arddull bersonol’ o fewn ffiniau normau arddull sydd wedi’u diffinio’n eglur. Fel y bu, llwyddiant mwyaf nodedig y gynhadledd oedd dadansoddiad manwl o strwythurau motiffig a gwrthbwyntiol, gan ddatblygu’r ddealltwriaeth o’r modd yr oedd saernïaeth  cerddoriaeth y cyfnod hwn yn gweithio ac yn newid mewn gwirionedd. Prif siaradwr y gynhadledd oedd yr Athro Joshua Rifkin (Boston); y siaradwyr gwadd oedd Bonnie Blackburn (Rhydychen), Warwick Edwards (Glasgow), David Fallows (Manceinion), Sean Gallagher (Harvard), Leofranc Holford-Strevens (Rhydychen), Christian Thomas Leitmeir (Bangor) a Rob Wegman (Princeton); cafwyd cyfanswm o 32 o bapurau dros dridiau. Bydd trafodion y gynhadledd yn cael eu cyhoeddi yng nghyfres "D'épitome Musical" y Centre Supérieures de la Renaissance (Tours) gan Brepols Publishers.