Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Ailddiffinio Arferion Testunol, c. 1400-1700

 

Diben y rhwydwaith hwn yw galw ynghyd ysgolheigion sy’n gweithio ar arferion testunol, gan gyfeirio’n benodol at arferion a phrosesau darllen a derbyniad. Mae’r rhwydwaith yn ceisio datblygu’r ddealltwriaeth ysgolheigaidd bresennol o sut yr oedd mathau penodol o destunau yn cael eu darllen a’u defnyddio, drwy edrych yn fanwl ar enghreifftiau penodol o lyfrau a dogfennau ar ffurf llawysgrif ac/neu mewn print. Mae’r pwyslais ar astudiaeth fanwl o eitemau unigol ac astudiaethau achos bychain er mwyn datblygu corpws o dystiolaeth ynghylch natur arferion darllen a derbyniad mewn sefyllfaoedd penodol ar hyd y cyfnod c 1400-1700.

Cynhaliwyd cyfarfod undydd cychwynnol ym mis Mawrth 2007 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru dan y teitl “What is Reading? c. 1350-1550”, gan ddwyn ynghyd bobl o nifer o sefydliadau yn y Deyrnas Unedig gan gynnwys Aberystwyth, Bangor, Bryste, Caerdydd, Caerwysg, Swydd Caint a Nottingham, ac o amrywiaeth o gefndiroedd disgyblaethol gan gynnwys llenyddiaeth, hanes, astudiaethau diwylliannol ac ieithoedd Ewropeaidd. Bu tri siaradwr mewn cyfarfodydd llawn yn ymdrin â themâu oedd yn arbennig o berthnasol i’w hymchwil gyfredol dan benawdau bras Llenyddiaeth Weinyddol, Llenyddiaethau Dychmygol a Llenyddiaethau Defosiynol. Defnyddiodd y siaradwyr enghreifftiau o’u defnydd archifol eu hunain yn ogystal ag eitemau a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i esbonio eu pwyntiau. Gwahoddwyd eraill oedd yn cyfrannu at y gweithdy i ddod â’u hymchwil a’u materion eu hunain at y bwrdd yn ystod y sesiynau trafod.   

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Dr Elisabeth Salter (Saesneg, Aberystwyth: els@aber.ac.uk).

 

 

Site footer