Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Llawysgrifau Cerddoriaeth Canoloesol a Modern Cynnar

 

Un o’r prif feysydd y ceir arbenigedd ynddo yn y Ganolfan Ymchwil i Gerddoriaeth Gynnar ym Mangor yw astudio llawysgrifau cerddoriaeth. Mae’r ystod o gyfnodau hanesyddol a mathau o ffynonellau sy’n cael eu cwmpasu gan ysgolheigion yn cynnwys  Thomas Schmidt-Beste, Christian  Leitmeir, Sally Harper a Bruce Wood heb ei hail yn y Deyrnas Unedig, o lafarganu canoloesol i godecsau moethus diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg. Drwy elwa yn sgil y cyfuniad unigryw hwn o arbenigedd, mae’r Ganolfan Ymchwil i Gerddoriaeth Gynnar a SACMC wedi ennill grant prosiect sylweddol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau dan y teitl "Llawysgrifau Cerddoriaeth Canoloesol a Modern Cynnar fel Gwrthrychau Amlgyfrwng". Mae’r prosiect yn archwilio’r rhyngweithio rhwng cynnwys ac ymddangosiad gweledol a materol y ffynonellau ysgrifenedig hynny o gerddoriaeth bolyffonig rhwng 1300 a 1600 sy’n cyfuno nodiant cerddorol a delweddau. Mae’n dwyn ynghyd agweddau sydd, i raddau helaeth, wedi cael eu hystyried ar wahân: gan ysgolheigion testunol o safbwynt cynnwys; gan baleograffegwyr o safbwynt cyfansoddiad materol; gan haneswyr celf o safbwynt ymddangosiad gweledol; a chan gerddorion ymarferol o safbwynt perfformadwyedd. Fodd bynnag, mae’r union gyfuniad o wahanol ddulliau o gynrychiolaeth yn golygu bod pob agwedd yn fwy ‘ystyrlon’ mewn nifer o wahanol ffyrdd – rhywbeth y tynnwyd sylw ato’n aml, ond na chafodd erioed ei archwilio mewn modd systematig ar gyfer ffynonellau cerdd. Ar sail ffynonellau dethol neu grwpiau dethol o ffynonellau (e.e., llawysgrifau 'Machaut' o ganol y bedwaredd ganrif ar ddeg, casgliadau gogledd yr Eidal o’r 1430au a’r 1440au, codecsau 'Alamire' o ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg a chodecsau moethus y Llys Bafaraidd yn Munich o’r l560au), bydd y prosiect yn edrych ar ddulliau cynhyrchu (fformat, deunyddiau, llawysgrifen, teip), cynrychiolaeth ofodol (rastra, gofod llinellu, mesuriadau), effeithiau a goblygiadau cynhyrchu mewn sawl cam, cwestiynau ynghylch cymesuredd ac estheteg, ac agweddau ar berfformiad a darlleniad. Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan yr Athro Thomas Schmidt-Beste a Dr Christian Leitmeir o Ysgol Cerddoriaeth Bangor, ar y cyd â Dr Elisabeth Salter (Saesneg, Aberystwyth) a Yr Athro Raluca Radulescu (Saesneg, Bangor). Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Ganolfan Ymchwil i Gerddoriaeth Gynnar (http://www.imems.ac.uk/centreforresearchinearlymusic.php.cy)

 

 

 

Site footer