Institute for Medieval and Early Modern Studies (IMEMS)
Mae’r Ganolfan yn gweithredu fel canolbwynt i’r nifer ryfeddol o uchel o ysgolheigion ym Mangor sy’n arwain y maes mewn ymchwil i gerddoriaeth cyn 1700: mae’n bosibl mai dyma’r crynhoad mwyaf o arbenigwyr o’r fath yn y Deyrnas Unedig. Ymhlith y cryfderau penodol mae astudiaethau ar ffynonellau, golygu, offerynnau cerddorol a cherddoriaeth gysegredig. Nod y Ganolfan yw defnyddio ei chyfraniad at SACMC i ymestyn y tu hwnt i’w harbenigeddau ei hun er mwyn ymwneud ag astudiaethau trawsddisgyblaethol gyda chydweithwyr o adrannau eraill yn Aberystwyth a Bangor, ac arwain gwaith ymchwil i gerddoriaeth gynnar ledled y byd.
Mae’r amrediad o arbenigedd yn y Ganolfan yn golygu ei bod yn hynod o ddeniadol ar gyfer astudiaethau uwchraddedig ym maes cerddoriaeth gynnar, a gellir gwneud y gwaith astudio hwn yng nghyd-destun cynyddol gyfoethog Ysgol Raddedigion Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mangor. Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnal neu’n cynllunio cyfres o brosiectau ymchwil a chynadleddau – ymhlith y rhain mae’r ffaith ei bod yn croesawu’r Gynhadledd Cerddoriaeth Ganoloesol a Cherddoriaeth y Dadeni yn 2008, ymchwilio i gerddoriaeth gynnar yng Nghymru, ailadeiladu organau o gyfnod y Dadeni, digideiddio llawysgrifau cerddoriaeth, creu cronfa ddata o fotetau ar-lein, a golygu gweithiau Henry Purcell. Mae’r Ganolfan yn cydweithredu â Chanolfan Uwch-astudiaethau Cerddoriaeth Cymru (CUACC); a’r Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Astudiaethau Cerddoriaeth Gysegredig (CRACG), tra bod prosiectau unigol yn golygu ein bod yn cydweithio â nifer o gyrff eraill ledled y Deyrnas Unedig, Ewrop a’r byd.
Am ragor o fanylion am weithgareddau y Ganolfan, cliciwch ar y dolenni isod:
Yr Athro Thomas Schmidt-Beste
Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Gerddoriaeth Gynnar