Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Llawysgrifau Amrywiol o’r Oesoedd Canol

Mae’r prosiect cydweithredol hwn wedi datblygu o fewn y thema ymchwil Diwylliannau’r Deunydd Ysgrifenedig, yn benodol trwy lwyddiant parhaus yr ysgol paleograffeg a llawysgrifeg staff-uwchraddedigion a gynhelir ym Mangor ac a drefnwyd gan Yr Athro Raluca Radulescu ers 2005. [http://palaeography_training.bangor.ac.uk//index.php] O 2009/10 ymlaen, datblygodd y grŵp hwn yn rhwydwaith ymchwil rhyngwladol, a gydlynir ar y cyd gan Dr Radulescu a Dr Margaret Connolly (Prifysgol St Andrews), ac sy’n cynnwys nid yn unig ysgolheigion o’r Sefydlaid Astudiaethau Canoloesol a Modern Cynnar (SACMC), ond hefyd o weddill y Deyrnas Unedig ac Ewrop, Unol Daleithiau America ac Awstralia. Mae gweithgareddau’r rhwydwaith wedi cynnwys cyfarfodydd ford gron a seminarau drwy gyswllt fideo a gweithdau hyfforddi i uwchraddedigion yn ogystal â’r digwyddiad rhyngwladol cyntaf, sef cynhadledd dan nawdd yr Academi Brydeinig o’r enw ‘Insular Books: Vernacular Miscellanies in Late Medieval Britain, a gynhaliwyd yn yr Academi Brydeinig rhwng 21-23 Mehefin 2012. Mae trafodion y gynhadledd yn cael eu golygu ar hyn o bryd gan Dr Radulescu a Dr Connolly (i ddod yn 2014). Yn 2013, cynhaliodd SACMC weithdy mewnol drwy we-gynhadledd, gan gasglu ynghyd ymchwil diweddaraf  y sefydliad ar y thema ymchwil bwysig hon.

 

 

Site footer